Tudalen 1 o 1

Arwydd Gyrfa Cymru

PostioPostiwyd: Sad 03 Ebr 2010 11:33 pm
gan xxglennxx
Heia bawb. Jyst neges fer gyflym i ofyn a yw unrhyw un arall wedi gweld arwydd gwallus yn ffenestr Gyrfa Cymru yn eich ardal chi. Efallai jyst Abertyleri yw e, ond mae'n dweud "Whatever 'Ch Heneiddia, 'Ch Ddyfodol Chychwynfau 'Ma. Rhyddha Gyrfaoedd Gwybodaeth. Chwnsel a Arweiniad." WTF?! Yn ddifrif?! Dwi wedi anfon e-bost atyn nhw (yn ddwyieithog, jyst rhag ofn does un person yn y canolfan yn siarad Cymraeg (!)).

Gwn i'r aethon nhw i'r safle hwn. Os rhowch chi "Whatever your age, your future starts here. Free careers information. Advice and guidance." i mewn, fe gewch y cach uchod.

Dyma beth anfonais iddynt,

"Annwyl Gyrfa Cymru,

Roeddwn i'n siomedig iawn pan gerddais heibio'ch canolfan yn Abertyleri i weld arwydd yn y ffenestr a oedd hollol anghywir yn y Gymraeg. Fe ddywed yr arwydd "Whatever 'Ch Heneiddia, 'Ch Ddyfodol Chychwynfau 'Ma. Rhyddha Gyrfaoedd Gwybodaeth. Chwnsel a Arweiniad," sydd yn hollol wallus o ran ei iaith a chystrawen. Gwn i'r aethoch i wasanaeth cyfieithu ar-lein, a gwn i'n union yr oedd yn hwn. Peidiwch byth â mynd i wefannau fel hyn i gyfieithu. Fe ddylai e ddweud, "Beth Bynnag Eich Oedran, Mae Eich Dyfodol yn Cychwyn Yma. Gwybodaeth am Yrfaoedd am Ddim. Cyngor ac Arweiniad."

Gaf i ofyn pwy sydd yn gyfrifol am hyn? Dwi'n siŵr bod rhywun ar fai fan hyn, felly hoffwn i chi ei datrys cyn gynted â phosibl. Os nad, cysylltaf â Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Nid yw'n dderbyniol yn y Saesneg, felly triniwch y Gymraeg â'r un parch, os gwelwch yn dda. Amgaeaf i gopi o'r llun ichi weld (y Gymraeg a'r Saesneg).

Hoffwn i ymateb yn y Gymraeg pe gallwch.

Dear Careers Wales,

I was very disappointed when I walked past your centre in Abertyleri to see a sign in the window that was totally incorrect in the Welsh language. The sign said, "Whatever 'Ch Heneiddia, 'Ch Ddyfodol Chychwynfau 'Ma. Rhyddha Gyrfaoedd Gwybodaeth. Chwnsel a Arweiniad," (which should mean, "Whatever your age, your future starts here. Free careers information. Advice and guidance"), which is totally erroneous with respect to its language and syntax. I know you went to an on-line translation service, and I know exactly that it was this one. Never go to websites like this to translation. It should read, "Beth Bynnag Eich Oedran, Mae Eich Dyfodol yn Cychwyn Yma. Gwybodaeth am Yrfaoedd am Ddim. Cyngor ac Arweiniad."

May I ask who who's responsible for this? I'm sure that someone is at fault, so I'd therefore like to see you resolve this problem as soon as possible. If you do not, I shall be contacting the Welsh Language Board. This is not acceptable in the English language, so please treat the Welsh language with the same respect. I attach a copy of the picture for you to see (the Welsh language version and the English language version).

I'd like a reply in Welsh if you could manage it.

Yn gywir,
Yours sincerely,

Glenn."

Delwedd
Delwedd

Beth yw'ch barnau chi?

Re: Arwydd Gyrfa Cymru

PostioPostiwyd: Sul 04 Ebr 2010 6:28 pm
gan Seonaidh/Sioni
Dyma'r canlyniad efo Google Translate:-

"Beth bynnag eich oedran, eich dyfodol yn cychwyn yma. Am ddim gwybodaeth gyrfaoedd. Cyngor a chyfarwyddyd"

Tipyn yn well, ond dim yn berffaith. Beth am awgrymu Translate.Google.com iddyn nhw?

Re: Arwydd Gyrfa Cymru

PostioPostiwyd: Sul 04 Ebr 2010 7:51 pm
gan sian
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dyma'r canlyniad efo Google Translate:-

"Beth bynnag eich oedran, eich dyfodol yn cychwyn yma. Am ddim gwybodaeth gyrfaoedd. Cyngor a chyfarwyddyd"

Tipyn yn well, ond dim yn berffaith. Beth am awgrymu Translate.Google.com iddyn nhw?


neu rywun o gig a gwaed!

Mae'n edrych yn debyg eu bod nhw wedi mynd i gostau mawr i wneud hwn!

Re: Arwydd Gyrfa Cymru

PostioPostiwyd: Sul 04 Ebr 2010 9:24 pm
gan xxglennxx
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dyma'r canlyniad efo Google Translate:-

"Beth bynnag eich oedran, eich dyfodol yn cychwyn yma. Am ddim gwybodaeth gyrfaoedd. Cyngor a chyfarwyddyd"

Tipyn yn well, ond dim yn berffaith. Beth am awgrymu Translate.Google.com iddyn nhw?


Mae'n dipyn yn well, ond dal yn wallus! Pe roddaf (neu awgrymaf) hyn iddynt, bydd yn rhaid iddynt ailwneud fe eto, felly nad oes dim pwynt!