Tudalen 1 o 1

Dysgu Cymraeg heb Lyfr

PostioPostiwyd: Mer 07 Ebr 2010 12:21 pm
gan Alan Vernon-Jones
Ydy rhywun yn gwybod os oes CD ar gael sydd yn galluogi'r dysgwr i wrando yn y car heb ddefnyddio Llyfr.
Mae y rhai rwyf wedi ei weld i gyd yn defnyddio llyfrau.

Diolch

Re: Dysgu Cymraeg heb Lyfr

PostioPostiwyd: Mer 07 Ebr 2010 12:38 pm
gan Hazel
Maen' nhw yn gasétiau ond mae 'na "ABC of Welsh" gan Cennard Davies, Basil Davies ac Ann Jones. Casétiau da iawn os oes chwaraewr casetiau yn eich car chi. Mae 'na llyfr efo'r casetiau ond gallwch chi'n gwrando heb y llyfr.

Re: Dysgu Cymraeg heb Lyfr

PostioPostiwyd: Mer 07 Ebr 2010 9:50 pm
gan xxglennxx
Alan Vernon-Jones a ddywedodd:Ydy rhywun yn gwybod os oes CD ar gael sydd yn galluogi'r dysgwr i wrando yn y car heb ddefnyddio Llyfr.
Mae y rhai rwyf wedi ei weld i gyd yn defnyddio llyfrau.

Diolch


Mae CDs a thapiau ar gael sydd yn cyd-fynd â chyrsiau CBAC (Mynediad, Sylfaen, Uwch ayyb), ac dwi'n meddwl y gallet ti ddefnyddio nhw heb y llyfrau. Pa lefel wyt ti am ddysgu?

Re: Dysgu Cymraeg heb Lyfr

PostioPostiwyd: Llun 12 Ebr 2010 2:47 pm
gan y mab afradlon
Shw mae, Alan.

Mae nifer o gyrsiau ar gael ar ffurf mp3, a mae modd eu trin a'u "llosgi" i CD trwy ddefnyddio'ch cyfrifiadur.

Naill ai Catchphrase y BBC, neu http://www.saysomethinginwelsh.com yw'r goreuon. Maent ill dau yn rhad ac am ddim.