Ydych chi wedi - Do/Naddo

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan xxglennxx » Iau 15 Ebr 2010 1:50 am

Heia bawb,

Beth yw'r ateb cywir wrth ymateb i gwestiwn sy'n dechrau gyda "ydych?" Pan oeddwn i'n dysgu'r Gymraeg, dysgais mai "do/naddo" yw'r atebion, ond wedi siarad â ffrind, "ydw/nac ydw" yw'r ateb yn ei ôl e. Cwestiwn gorffennol yw e, on'd yw e, felly siŵr o fod "do/naddo" yw'r ateb?!

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn defnyddio "do/naddo" gyda "ydych" hefyd.

Diolch.

Ô.N., Os ydych yn gwybod yr ateb, gallwch ymestyn yn llawn (mewn termau gramadegol os oes angen arnoch) â fe?
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 15 Ebr 2010 8:09 pm

Yn nhermau gramadegol...dw i ddim yn sicr am hynny. Yn syml, mae;n swnio'n od iawn i mi i glywed "Do2 neu "Naddo" fel ateb i gwestiwn "Ydych chi wedi..." Ond mae hyn o "Elfennau Gramadeg Cymraeg" Stephen Williams:-
Elf. Gram. Cym. a ddywedodd:Os defnyddir y gystrawen beriffrastig i ddynodi'r amser gorffennol yn y cwestiwn (...) fe ailadroddir y ferf fel rheol:

A ydych chwi wedi gorffen y gwaith? Ydym; A wyt ti wedi darllen y llyfr? Ydwyf; A ydyw ef wedi bod yma? Ydyw.

Eithr ceir Do yn ateb i'r math hwn o gwestiwn weithiau (yn nhafodieithoedd y Gogledd yn bennaf):

A wyt ti wedi gweld y llun? Do.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan xxglennxx » Iau 15 Ebr 2010 8:41 pm

Diolch am dy ymateb, Seonaidh. Ie, yn gyffredinol, byddwn yn dweud "Ydw/Nac ydw" er mwyn ateb cwestiwn sy'n dechrau gyda "ydych chi/wyt ti . . ?" ond roeddwn i'n jyst meddwl gan welais i fe ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol :)

Diolch 'to.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan Duw » Iau 15 Ebr 2010 11:26 pm

Do/naddo i mi yw ymateb i'r gorffennol. Est ti i'r sinema? Do/naddo. Gest ti cic yn y pen-ôl? Do/naddo.
Erioed wedi clywed e fel ymateb arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan xxglennxx » Gwe 16 Ebr 2010 4:02 pm

Duw a ddywedodd:Do/naddo i mi yw ymateb i'r gorffennol. Est ti i'r sinema? Do/naddo. Gest ti cic yn y pen-ôl? Do/naddo.
Erioed wedi clywed e fel ymateb arall.


Ie, ond cwestiynau sy'n perthyn i'r gorffennol ydyn nhw, gan eu bod yn dechrau gyda berf sy'n weithredol. Dwi isio gwybod os yw'r un ymateb yn iawn i'w ddweud gyda brawddeg sy'n dechrau gyda "ydych/wyt?"

Wyt ti'n iawn? Ydw.
Wyt ti wedi nofio eto? Ydw/Do?

Gan fod y cwestiwn yn bersonol, dyn ni'n ei ateb gyda rhagenw personol, sef "ydw/nac ydw," ond fel fy mod i wedi'i ddweud, dwi wedi gweld "ydw" a "do" am ymatebion?

*Dryslyd* Ha.

Diolch am dy ymateb, Duw :)
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan xxglennxx » Sad 17 Ebr 2010 11:09 pm

Dyma neges a ges i gan Hazel,

Hazel a ddywedodd:Glenn, I cannot find this in Welsh. So, here it is in English from "Pocket Modern Welsh Dictionary".

Many speakers extend this (do/naddo) to other tenses referrring to the past, notably the perfect in wedi. This usage is rejected by the literary language as being inconsistent from the point of view of grammar, with the argument that the initial present tense, wedi or no, requires a present tense response. On the deeper level of meaning, however, it seems clear that the primary sense of do is past time rather than preterite tense, and on this basis the widespread use of do with the main wedi tense is entirely logical: ydych chi wedi clywed y newyddion? -- ydw or do

So, there you are. Either is correct. I first learned that it should be "ydw" / "nac ydw". However, I have a NW friend who tells me it should be "do" / "naddo".

I close with my favourite motto for Welsh. "If the experts can't agree, do as you please." Pob lwc. Hazel


Gan ddarllen hynny, mae "do/naddo" yn cael eu defnyddio llawer mwy yn y Gogledd i ateb "Ydych" nag yn y De, ond dal yn dderbyniol :)
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan Kez » Sul 18 Ebr 2010 12:33 am

Anghywir yw defnyddio do/naddo i gwestiwn yn yr amser perffaith yn yr iaith safonol.

Wyt ti wedi bod allan heno- do/naddo. Nodwedd dafodieithol yn y Gogledd yw hi - yr ateb iawn yw ydw/nac ydw (yn yr iaith safonol) - a dyna be gei di yn y De.

Dyw hi ddim yn fater o beth sy'n gywir ne beidio ond bod gramadegwyr yn derbyn bod yr ymateb ydw/nac ydw yn safonol- gywir a bod do/naddo yn dafodieithol.



Dyw do/naddo ddim yn digwydd fel ymateb i gwestiwn yn yr amser presennol:

Wyt ti'n mynd i Gaerdydd - ydw (iaith safonol a thafodieithol -De a Gogledd)


Ond yn yr amser perffaith, fe gei di:

Wyt ti wedi bod yng Nghaerdydd - ydw (iaith y De a'r Gogledd )
Wyt ti wedi bod yng Nghaerdydd - do (tafodiaith ambell i le yn y Gogledd)
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Ydych chi wedi - Do/Naddo

Postiogan xxglennxx » Sul 18 Ebr 2010 9:52 pm

Kez a ddywedodd:Anghywir yw defnyddio do/naddo i gwestiwn yn yr amser perffaith yn yr iaith safonol.

Wyt ti wedi bod allan heno- do/naddo. Nodwedd dafodieithol yn y Gogledd yw hi - yr ateb iawn yw ydw/nac ydw (yn yr iaith safonol) - a dyna be gei di yn y De.

Dyw hi ddim yn fater o beth sy'n gywir ne beidio ond bod gramadegwyr yn derbyn bod yr ymateb ydw/nac ydw yn safonol- gywir a bod do/naddo yn dafodieithol.



Dyw do/naddo ddim yn digwydd fel ymateb i gwestiwn yn yr amser presennol:

Wyt ti'n mynd i Gaerdydd - ydw (iaith safonol a thafodieithol -De a Gogledd)


Ond yn yr amser perffaith, fe gei di:

Wyt ti wedi bod yng Nghaerdydd - ydw (iaith y De a'r Gogledd )
Wyt ti wedi bod yng Nghaerdydd - do (tafodiaith ambell i le yn y Gogledd)


Diolch, Kez. Yr union ymateb roeddwn i'n ei chwilio amdano!
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron