Tudalen 1 o 1

Nad, nid, nac

PostioPostiwyd: Iau 15 Ebr 2010 11:35 pm
gan Duw
Sori os ydy hwn wedi bod o'r blaen, ond stim modd chwilio'n effeithiol am eiriau cyffredin fel y rhain.

Unrhyw un gallu esbonio i mi sut a ble i ddefnyddio nad, nid nac. Mae'r 2 cynta'n hala fi'n boncyrs. :seiclops:

Re: Nad, nid, nac

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2010 9:06 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ti wedi dweud "Dwnim", neu "Nid ydwyf yn gwybod"? Rhywbeth tebyg siwr o fod. Wel, dyna iti "nid": negydd, fel arfer o flaen darnau "bod" sy'n dechrau gyda llafariad, ac hefyd o flaen mynegiannau pwyslais, e.e. "Nid felly yr oedd". Ond, ar lafar, fel arfer dyn ni ddim yn defnyddio ond y D - ac fe ddaw'n amhosibl dweud ai "nid" ai "nad" sydd yno. Mae "nad, fel arfer, y air cyswllt, e.e. "Dyna'r dyn nad oedd am roi arian i'r cardotyn". Caiff "nac" ei arfer o flaen gorchmynnau negyddol lle mae'r ferf yn dechrau efo llafariad "Ac nac arwain ni i'r prawf" ac ati. Hefyd, mae "nag", sy'n amrywiad o "na" o flaen llafariad ("Rydw i'n enwocach nag Elvis").

Re: Nad, nid, nac

PostioPostiwyd: Gwe 16 Ebr 2010 9:11 pm
gan Kez
Fi'n siwr daw rhywun sensible heibio i ateb dy gwestiwn di Duw - ond nid heno!

Ma'r peth ynglyn a 'ni/nid' yn atgoffa fi o hen sgets Monty Python - Y marchogion sy'n dweud 'Ni' / The knights who say 'Ni'.



Wi'n siwr bod y clip ma yn lot fwy difyr na'r ateb gelsat ti i dy gwestiwn!! :winc:

Re: Nad, nid, nac

PostioPostiwyd: Sad 17 Ebr 2010 12:58 pm
gan Duw
Diolch Sioni. Dwi'n credu dwi'n deall nawr. Kez, NID wyf yn gwybod beth i'w ddweud am NAD wyt wedi ateb y cwestiwn NAC adlonni darllenwyr yr edefyn. Cywir? Wel, na, i fod yn onest Kez, roedd e'n eitha doniol. Fy hoff ffilm MP - mwy na LoB. :lol:

Re: Nad, nid, nac

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2010 5:16 pm
gan Seonaidh/Sioni
LoB? Onid "LoG" hynny - Lod o Gachu"? (Wel, Lod o Bw, efallai...)

Re: Nad, nid, nac

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2010 6:28 pm
gan Kez
Pych - fi'n digwdd credu bod 'Life of Brian' yn effin bril - trwyddi draw!!

Fi'n itha lico'r ffilm Monty Python le ma rhyw ffat ffycar yn ecsplodo ar ol byta rhyw after 8 mint ond fi'n ffilu ffindo clip ohoni. Rwyf wedi rhoi 'fat fucker explodes' fel ymchwiliad ar Youtube ond dim ond pethach porno sy'n dod lan :(

Re: Nad, nid, nac

PostioPostiwyd: Llun 19 Ebr 2010 11:27 pm
gan Duw
Kez a ddywedodd:Pych - fi'n digwdd credu bod 'Life of Brian' yn effin bril - trwyddi draw!!

Fi'n itha lico'r ffilm Monty Python le ma rhyw ffat ffycar yn ecsplodo ar ol byta rhyw after 8 mint ond fi'n ffilu ffindo clip ohoni. Rwyf wedi rhoi 'fat fucker explodes' fel ymchwiliad ar Youtube ond dim ond pethach porno sy'n dod lan :(


O Iesgyrn Dafydd, mae'r ffat f***** sy'n teipo hwn bron ag explodo wrth ddarllen dy bost. Rhaid dweud taw Mr. Creosote yn ffrwydro'n rhacs jibiders yw eu sgets gore.

Co fe:



Ahem, eniwei - nôl i'r edefyn