Tudalen 1 o 1

Azide

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2010 2:21 pm
gan Duw
Edrych am gyfieithiad o derm cemegol 'azide'. Yn ôl fformat arferol, dylai cyfieithiad gynnig 'asid', er yn amlwg mae 'asid' yn cyfeirio at y gair Saesneg 'acid'. :rolio: Dwi wedi methu â dod at ateb gyda'r ffynonellau arferol fel BYIG ac ati. Unrhyw un?

Re: Azide

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2010 2:41 pm
gan Hazel
Duw, Dywed Y Termiadur: "azide ion" = "Ion asaid" (ll: "ionau asaid")

O'r gorau?

Re: Azide

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2010 9:09 pm
gan Duw
Gwych Hazel - gwneud synnwyr. Hah! Rhaid bod geiriadur llawer gwell na minne 'da ti. OK - dwi'n diweddaru cronfa ddata fy ngwefan cyfieithu enwau cemegol nawr. cemeg ar wetwork

Re: Azide

PostioPostiwyd: Sul 25 Ebr 2010 9:41 pm
gan Hazel
Da iawn! Rwy'n falch.

Re: Azide

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2010 12:53 pm
gan huwwaters
Ma hwn reit diddorol hefyd:

http://cy.wikipedia.org/wiki/Hen_enwau_Cymraeg_am_yr_elfennau

Byswn i'n reit hoff o atgyfodi rhai o'r geriiau hen, gan fod mwy o hanes yn ei dardd, ond dwi'n sylweddoli'r hwylusdod sydd yn yr enwau newydd a chysondeb gwyddonol.

Re: Azide

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2010 2:01 pm
gan Duw
O diwedd annwyl, methu ag ynganu'r enwau! Diddorol iawn Huw, dwi ddim yn gwybod os aiff y rhain i'r gronfa shwt.