Seisnigrwydd Cymru x a Phlaid Cymru!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Seisnigrwydd Cymru x a Phlaid Cymru!

Postiogan adamjones416 » Maw 06 Gor 2010 9:42 pm

Gan ei fod e'n bwysig cadw trafodaeth difyr ar y safle yma, Dwi am gychwyn â rhywbeth sydd wedi fy ngwylltio i, fy siomi a fy synni yn ddiweddar ac o ran Blaid Cymru mai hyn. Mae nifer o aelodau Cymraeg eu hiaith sydd yn aelodau Cynulliad neu'r Senedd yn cadw blogiau a naw gwaith allan o ddeg Saesneg yn unig yw'r blogiau yma. Gan Gymry Cymraeg bondigrybwyll sydd yn cadw sŵn parthed deddfau iaith ayyb ond yn methu a chyflawni'r nod eu hunain. Mae'n rhagrithiol ac yn warthus ar ran Plaid Cymru, A'r hyn wi'n gweld yn od iawn yw bod neb o'r top i weld yn arwain yn iawn, does dim polisïau penodol ar sut dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ymysg aelodau a chyfarfodydd y Blaid. Gallwch chi ofyn pam nagw i'n barnu pleidiau eraill Cymru? Y rheswm achos Cenedlaetholwyr yw Plaid Cymru sydd i fod yn brwd dros yr iaith ond ar hyn o bryd mae nhw'n cefnu ar eu cefnogwyr caib a rhaw o'r Fro Gymraeg er mwyn ceisio denu cefnogwyr di-Gymraeg. A dwi wedi cael llond bol.

Dyma ychydig o Enghreifftiau
Cyfarfodydd Cymru X yn Llanelli wedi cael gwybod bod na esiampl o wrth yr iaith Gymraeg yno, arweinwr Natasha rhywbeth yn bychanu'r iaith a phopeth? O le mae Plaid Cymru a Chymru X yn cael y pobl yma? Mae nhw'n disgwyl yn wael arnynt ac yn niweidio'r iaith unwaith yn rhagor? Iaith Pawb a Chymru dwyieithog? Dont mêc mi laff!.

Ar dudalennau Facebook Plaid for Neath a Chymru X Llanelli does dim un gair o Gymraeg?. Grŵp Facebook Team 2011 For Plaid Cymru, dim un gair o Gymraeg a nid tudalennau gan bobl cyffredin mo rhain ond gan fawrion y blaid megis Bethan Jenkins ayyb, mae'r gyfan oll yn warthus. Roedd y Newyddion yn ymddangos ar dudalen Facebook Plaid Cymru yn uniaith Saesneg ond ar ôl coethan a choethan am hir oes mae'r drefn wedi newid o'r diwedd ond am faint tybed?. Hefyd Pam mae aelodau sy'n Gymry Cymraeg yn y Senedd Megis Bethan Jenkins eto yn mynnu ofyn cwestiynau yn Saesneg i'r gweinidog dros Amaethyddiaeth - Elin Jones? Tra bod hithau'n siarad Cymraeg a Bethan yn mynnu'r Saesneg? A finnau'n meddwl mae Cenedlaetholwyr oedd rhain i fod?

DEFFRWCH, Ystyr Cenedlaetholdeb Plaid Cymru yw cariad ac angerdd dros eich gwlad a phob peth amdani, Mae'r iaith yn rhywbeth sydd yn gallu uno Cymru nid eu hollti, rydych chi'n fwgan ar Gymru ar hyn o bryd Plaid Cymru, po gynted chi mewn Llywodraeth chi'n bradychu'ch cefnogwyr Craidd, Pobl Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth, Dyffryn Tywi a Dyffryn Teifi, Pobl Eifionydd a Phobl Sir Fôn, dyma galon y blaid a mae eisie i chi ddechre trin yr ardaloedd yma â pharch trwy efelychu hynny yn eich polisïau ieithyddol. Mae'r cyfle gennych chi nawr, newidiwch y drefn a gwnewch ddefnydd teg o'r Gymraeg a'r Saesneg, nid ond un o'r llall, Cwestiwn sylfaenol ag ateb eitha syml, Rydych chi fel plaid yn mynnu eich bod am gynrychioli pawb yng Nghymru, mae person sydd yn Gymro/Cymraeg Cymraeg ei i/hiaith yn gallu siarad a phawb yng Nghymru yn Gymraeg ac yn y Saesneg, ydy pobl uniaith yn gallu gwneud yr un peth nac ydyn? Felly pam rydych chi'n mynnu cyflogi staff uniaith Saesneg yn Swyddfa Plaid Cymru Llanelli? Ardal fel Llanelli lle mae 'na nifer o Gymry Cymraeg a chithau'n methu cyrraedd eu gofynion nhw?

Dewch bawb i ddadlau ac i ddangos i Blaid Cymru ein hanfodlonrwydd a'n dirmyg tuag at sut mae pethau ar hyn o bryd. Newidiwch y Drefn Plaid Cymru!.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Seisnigrwydd Cymru x a Phlaid Cymru!

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 07 Gor 2010 7:51 am

Y broblem ydi bod Plaid Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi derbyn aelodau sy'n poeni dim am yr iaith Gymraeg (sy'n ymwneud lot â'r newid ym Mhlaid Cymru at genedlaetholdeb sifig yn hytrach na chenedlaetholdeb traddodiadol) ac nifer fawr nad ydynt hyd yn oed yn genedlaetholwyr fel yr Ashgars, Neil McEnvoy, Sibani Roy, Leanne Wood ac ati. Dwinnau hefyd wedi sylwi bod llawer o e-lenyddiaeth Plaid Cymru yn uniaith Saesneg, sy'n gwneud dim ond fy nadrithio mwy o'r Blaid.

Mae'r newid o genedlaetholdeb traddodiadol i genedlaetholdeb lle nad yw'r iaith yn rhan ganolog ohono yn mynd i daro Plaid Cymru y flwyddyn nesaf. Tasa etholiad Cynulliad yfory, byddwn i ddim yn trafferthu pleidleisio, a dwi'n genedlaetholwr i'r carn. Y peth trist ydi 'sgen i ddim mymryn o ffydd y bydd Plaid Cymru yn hidio am hyn, a dros y mis diwethaf am y tro cyntaf erioed dwi'n meddwl efallai bod yr amser wedi dod i sefydlu ail blaid genedlaetholgar yng Nghymru, lle mae cenedlaetholdeb wrth ei gwraidd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Seisnigrwydd Cymru x a Phlaid Cymru!

Postiogan adamjones416 » Mer 07 Gor 2010 10:58 am

Dyna'n union fy mhryderon i, Baswn i ddim yn dweud bod Neil Mcevoy ddim yn hido am yr iaith ond y gweddill y soniaist amdano, cytuno yn llwyr. Mae na Nam yng nghyfansoddiad y blaid, lle nad oes digon o wylio a monitro ar eu haelodau ac ar sut mae nhw'n gweithredu'n uniongyrchol. Enghraifft o'r hyn yw'r tudalen Facebook Cymru X Llanelli. Mae yna Paragraff yn dweud hyn (a pharagraff weddol newydd achos nid yw'r grŵp yn un hen)

Cymru X and Plaid Cymru want Wales to work for young people regardless of background – we are not a party just for Welsh speakers! The party is proud to have one AM and three County Councillors from the Pakistani and Bangladeshi communities of Wales

Onid yw'r brawddeg yna yn ei hun yn hiliol ac yn tanseilio'r iaith Gymraeg? Beth sydd yn bod trwy ddweud Rydym yn blaid i Bawb yng Nghymru boed yn Siaradwyr Cymraeg a Siaradwyr Saesneg. Yn lle dyn ni ddim ond yn blaid i bobl Cymraeg eu hiaith. Mae hynny yn syth yn ein pwyntio ni allan ac yn ceisio gwneud gosodiad yn ein herbyn ac mae'r gyfan oll yn ffars llwyr. Hefyd nid yw Mohamed Ashgar yn aelod o'r blaid mwyach ond mae ganddynt paragraffau sydd yn ei ddyrchafu fe, Dyrchafu'r Ceidwadwyr felly? Mae eisie i'r blaid tyfu lan a dihuno lan i weld yr hyn sydd yn digwydd, ac os tasai Gwynfor neu Saunders yn gweld hyn bydde'n soddom a gemora yma!.

Plaid Arall? Wn i ddim mae gan Plaid Cymru carfan gryf o gefnogwyr nawr falle dylwn ni gweithio ar newid y blaid ei hun yn hytrach na dechrau o scratch? Ond eto fyth dyw e ddim yn amhosib a dwi yn cytuno hefyd, er fy mod i'n genedlaetholwr i'r carn, yr Iaith sydd yn dod yn gyntaf cyn unrhyw Annibyniaeth ayyb!. Neu ddilyn trywydd Iwerddon fyddwn ni, Ennill annibyniaeth ond colli'r iaith. Dwi ddim yn barod i weld hynny'n digwydd yng Nghymru!.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Seisnigrwydd Cymru x a Phlaid Cymru!

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 07 Gor 2010 11:49 am

Dydi Neil MvEnvoy ddim yn genedlaetholwr - mae o 'di deud hynny wrtha i'n blwmp ac yn blaen i ngwyneb i, ac o be dwi'n gofio doedd o'm yn ofnadwy o frwd dros ddeddf iaith newydd, er ei fod yn dysgu Cymraeg chwarae teg.

Y broblem fawr efo 'we are not just a party for Welsh-speakers' ydi hyn: ar yr un llaw mae'n rhaid iddi geisio apelio at y di-Gymraeg, ond yr argraff mae nifer o'i chefnogwyr traddodiadol yn ei chael ydi ei bod yn gwneud hynny ar draul y Gymraeg. Mae llawer o Gymry Cymraeg yn teimlo perchnogaeth dros Blaid Cymru - gwae iddi golli hynny.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Seisnigrwydd Cymru x a Phlaid Cymru!

Postiogan adamjones416 » Mer 07 Gor 2010 12:29 pm

O wel wn i ddim am Neil ond ti'n iawn, Mae dweud y fath peth yn anghyfrifol iawn, Dychmyga se'r Plaid Lafur yn dweud We're not just a party for the Valleys, base'r cymoedd yn meddwl howld on dyn nhw ddim yn blaid i ni?. Mae'n hen bryd i blaid Cymru cymryd mwy o reolaeth dros beth ma nhw'n gwneud ac yn eu gweinyddiad, Rwy'n siŵr tase Gwenllïan Lansdowne a Dafydd Iwan yn ymwybodol o hyn i gyd base nhw ddim yn hapus!.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai