Gan ei fod e'n bwysig cadw trafodaeth difyr ar y safle yma, Dwi am gychwyn â rhywbeth sydd wedi fy ngwylltio i, fy siomi a fy synni yn ddiweddar ac o ran Blaid Cymru mai hyn. Mae nifer o aelodau Cymraeg eu hiaith sydd yn aelodau Cynulliad neu'r Senedd yn cadw blogiau a naw gwaith allan o ddeg Saesneg yn unig yw'r blogiau yma. Gan Gymry Cymraeg bondigrybwyll sydd yn cadw sŵn parthed deddfau iaith ayyb ond yn methu a chyflawni'r nod eu hunain. Mae'n rhagrithiol ac yn warthus ar ran Plaid Cymru, A'r hyn wi'n gweld yn od iawn yw bod neb o'r top i weld yn arwain yn iawn, does dim polisïau penodol ar sut dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ymysg aelodau a chyfarfodydd y Blaid. Gallwch chi ofyn pam nagw i'n barnu pleidiau eraill Cymru? Y rheswm achos Cenedlaetholwyr yw Plaid Cymru sydd i fod yn brwd dros yr iaith ond ar hyn o bryd mae nhw'n cefnu ar eu cefnogwyr caib a rhaw o'r Fro Gymraeg er mwyn ceisio denu cefnogwyr di-Gymraeg. A dwi wedi cael llond bol.
Dyma ychydig o Enghreifftiau
Cyfarfodydd Cymru X yn Llanelli wedi cael gwybod bod na esiampl o wrth yr iaith Gymraeg yno, arweinwr Natasha rhywbeth yn bychanu'r iaith a phopeth? O le mae Plaid Cymru a Chymru X yn cael y pobl yma? Mae nhw'n disgwyl yn wael arnynt ac yn niweidio'r iaith unwaith yn rhagor? Iaith Pawb a Chymru dwyieithog? Dont mêc mi laff!.
Ar dudalennau Facebook Plaid for Neath a Chymru X Llanelli does dim un gair o Gymraeg?. Grŵp Facebook Team 2011 For Plaid Cymru, dim un gair o Gymraeg a nid tudalennau gan bobl cyffredin mo rhain ond gan fawrion y blaid megis Bethan Jenkins ayyb, mae'r gyfan oll yn warthus. Roedd y Newyddion yn ymddangos ar dudalen Facebook Plaid Cymru yn uniaith Saesneg ond ar ôl coethan a choethan am hir oes mae'r drefn wedi newid o'r diwedd ond am faint tybed?. Hefyd Pam mae aelodau sy'n Gymry Cymraeg yn y Senedd Megis Bethan Jenkins eto yn mynnu ofyn cwestiynau yn Saesneg i'r gweinidog dros Amaethyddiaeth - Elin Jones? Tra bod hithau'n siarad Cymraeg a Bethan yn mynnu'r Saesneg? A finnau'n meddwl mae Cenedlaetholwyr oedd rhain i fod?
DEFFRWCH, Ystyr Cenedlaetholdeb Plaid Cymru yw cariad ac angerdd dros eich gwlad a phob peth amdani, Mae'r iaith yn rhywbeth sydd yn gallu uno Cymru nid eu hollti, rydych chi'n fwgan ar Gymru ar hyn o bryd Plaid Cymru, po gynted chi mewn Llywodraeth chi'n bradychu'ch cefnogwyr Craidd, Pobl Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth, Dyffryn Tywi a Dyffryn Teifi, Pobl Eifionydd a Phobl Sir Fôn, dyma galon y blaid a mae eisie i chi ddechre trin yr ardaloedd yma â pharch trwy efelychu hynny yn eich polisïau ieithyddol. Mae'r cyfle gennych chi nawr, newidiwch y drefn a gwnewch ddefnydd teg o'r Gymraeg a'r Saesneg, nid ond un o'r llall, Cwestiwn sylfaenol ag ateb eitha syml, Rydych chi fel plaid yn mynnu eich bod am gynrychioli pawb yng Nghymru, mae person sydd yn Gymro/Cymraeg Cymraeg ei i/hiaith yn gallu siarad a phawb yng Nghymru yn Gymraeg ac yn y Saesneg, ydy pobl uniaith yn gallu gwneud yr un peth nac ydyn? Felly pam rydych chi'n mynnu cyflogi staff uniaith Saesneg yn Swyddfa Plaid Cymru Llanelli? Ardal fel Llanelli lle mae 'na nifer o Gymry Cymraeg a chithau'n methu cyrraedd eu gofynion nhw?
Dewch bawb i ddadlau ac i ddangos i Blaid Cymru ein hanfodlonrwydd a'n dirmyg tuag at sut mae pethau ar hyn o bryd. Newidiwch y Drefn Plaid Cymru!.