xxglennxx a ddywedodd:Beth yw'r rheolau o ddefnyddio "mewn" ac "yn," a phryd?
Dyn ni'n dweud, yn Gymraeg, mewn lle ayyb.
Pam "mewn ieithoedd eraill" a nid "yn ieithoedd eraill"? (Jyst er enghraifft). 'Run peth â "mewn Saesneg - fel "mae gradd mewn Llenyddiaeth Cymraeg gen i""?
Os rheolau wedi'u osod mewn carreg?
Diolch!
Fel rheol mae "mewn" yn fwy cyffredinol.
Cafodd ei eni mewn tŷ mewn tref mewn gwlad bell.
Cafodd ei eni yn 'Gorffwysfa', yng Nghaerfyrddin, yng Nghymru.
Daeth Huw i'r dref mewn car
Daeth Huw i'r dref mewn Lada
Daeth Huw i'r dref yn ei Lada
Ond mae 'na enghreifftiau lle nad yw'r gwahaniaeth mor glir