Tudalen 1 o 1

Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 12:30 am
gan xxglennxx
Beth yw'r rheolau o ddefnyddio "mewn" ac "yn," a phryd?

Dyn ni'n dweud, yn Gymraeg, mewn lle ayyb.

Pam "mewn ieithoedd eraill" a nid "yn ieithoedd eraill"? (Jyst er enghraifft). 'Run peth â "mewn Saesneg - fel "mae gradd mewn Llenyddiaeth Cymraeg gen i""?

Os rheolau wedi'u osod mewn carreg?

Diolch!

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 8:31 am
gan sian
xxglennxx a ddywedodd:Beth yw'r rheolau o ddefnyddio "mewn" ac "yn," a phryd?

Dyn ni'n dweud, yn Gymraeg, mewn lle ayyb.

Pam "mewn ieithoedd eraill" a nid "yn ieithoedd eraill"? (Jyst er enghraifft). 'Run peth â "mewn Saesneg - fel "mae gradd mewn Llenyddiaeth Cymraeg gen i""?

Os rheolau wedi'u osod mewn carreg?

Diolch!


Fel rheol mae "mewn" yn fwy cyffredinol.
Cafodd ei eni mewn tŷ mewn tref mewn gwlad bell.
Cafodd ei eni yn 'Gorffwysfa', yng Nghaerfyrddin, yng Nghymru.

Daeth Huw i'r dref mewn car
Daeth Huw i'r dref mewn Lada
Daeth Huw i'r dref yn ei Lada

Ond mae 'na enghreifftiau lle nad yw'r gwahaniaeth mor glir

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 7:29 pm
gan xxglennxx
sian a ddywedodd:Fel rheol mae "mewn" yn fwy cyffredinol.
Cafodd ei eni mewn tŷ mewn tref mewn gwlad bell.
Cafodd ei eni yn 'Gorffwysfa', yng Nghaerfyrddin, yng Nghymru.

Daeth Huw i'r dref mewn car
Daeth Huw i'r dref mewn Lada
Daeth Huw i'r dref yn ei Lada


Diolch, ond gwn hynny :) Gellid cyfeirio "mewn" i "in a" fel arfer. Daeth Huw mewn car > Huw came in a car.

sian a ddywedodd:Ond mae 'na enghreifftiau lle nad yw'r gwahaniaeth mor glir.


Fel? :D "Mewn ieithoedd eraill" er enghraifft. Ydy'n ni'n defnyddio "mewn" gyda'r lluosog? "Mewn llefydd bach"???

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Mer 07 Gor 2010 9:16 pm
gan sian
xxglennxx a ddywedodd:Fel? :D "Mewn ieithoedd eraill" er enghraifft. Ydy'n ni'n defnyddio "mewn" gyda'r lluosog? "Mewn llefydd bach"???


Ydyn - mae hynny'n iawn.

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Iau 08 Gor 2010 4:33 pm
gan xxglennxx
sian a ddywedodd:Ydyn - mae hynny'n iawn.


O diolch! Dyw neb wedi dweud hynny wrtha i erioed! Unrhyw enghreifftiau eraill lle rydym yn defnyddio mewn yn lle yn?

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Gwe 09 Gor 2010 9:51 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mae na lot o bobl sy'n dweud "yn Gymraeg", sy'n edrych efallai'n od, gan bod ni'n dweud "yng Nghymru" ayyb. Ond rhaid cofio mai byrhad sy yno - am "yn y Gymraeg".

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 2:26 pm
gan xxglennxx
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae na lot o bobl sy'n dweud "yn Gymraeg", sy'n edrych efallai'n od, gan bod ni'n dweud "yng Nghymru" ayyb. Ond rhaid cofio mai byrhad sy yno - am "yn y Gymraeg".


O ie - dwi erioed ddim wedi meddwl am hynny yn y ffordd 'na!

Felly, ydy hynny pam mae CBAC (ac eraill) yn dweud "Tystysgrif mewn Cymraeg / mewn Llenyddiaeth Saesneg / mewn Technoleg Gwybodaeth" ayyb a nid "Tystysgrif yn y Gymraeg / yn Llenyddiaeth Saesneg / yn Technoleg Gwybodaeth"? Ond bellach weld yr "y" sy' yno, ni fyddai'n wneud synnwyr i ddweud "Tystysgrif yn y Llenyddiaeth Saesneg"?!

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 2:45 pm
gan Hazel
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae na lot o bobl sy'n dweud "yn Gymraeg", sy'n edrych efallai'n od, gan bod ni'n dweud "yng Nghymru" ayyb. Ond rhaid cofio mai byrhad sy yno - am "yn y Gymraeg".


Nid yw "yn Gymraeg" = "in Welsh"? Efallai dylai hi "yn y Gymraeg"?

Wedyn, "yng Nghymru" = "in Wales"?

Diolch

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 7:28 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ay Hazel, mae'r geiriau "yn Gymraeg" yn cael eu defnyddio, fel arfer, am rywbeth a fyddai "in Welsh" yn [y] Saesneg. Ond ystyried hyn: yn [yr] Aeleg (neu, yng Ngaeleg yr Alban), pan dyw ni eisiau dweud pethau fel "in Welsh", dym ni'n dweud "sa Chuimris", sy'n fyrhad ar "anns a' Chuimris", neu "in the Welsh". Dyna ddull siarad - dydn nhw ddim yn dweud (fel arfer), yn [y] Saesneg, "in the Welsh", dydn nhw ddim yn dweud "in the school" chwaith. Dyma iti gwestiwn ac ateb Saesneg - cyfieitha nhw i'r Gymraeg a gwel be dwi'n ei olygu:-

"Where is Bethan today?" "She is in school"

Iawn?

Re: Mewn ac Yn

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 7:51 pm
gan Hazel
Oh, mae'n edrych od i ni ond mae'n gywir yn yr iaith Gymraeg. Iawn?

Iawn. Dydyn ni ddim yn dweud 'in the Welsh' neu 'she is in the school'. Ond eto, rydyn ni'n dweud "in the hospital".

O'r gorau. Diolch.