sian a ddywedodd:Ydi ymadroddion fel "Ydych chi angen rhywbeth?", "Roedd John angen esgidiau newydd", "Mae Huw eisiau mynd i'r dre" yn dderbyniol mewn Cymraeg ffurfiol erbyn hyn?
Dw i newydd gywiro sawl enghraifft wrth olygu dogfen swyddogol ond wedyn ro'n i'n teimlo braidd yn gas achos dw i wedi'i weld mewn dogfennau swyddogol a'i glywed ar newyddion Radio Cymru.
Mae Briws yn dweud "the common construction "rwy eisiau", "wyt ti isho?" etc are incorrect".
Datblygiad naturiol / bratiaith ?
Maent dysgu hyn ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ond wrth imi gyrraedd hwn, byddaf yn eu dysgu'r ddwy ffordd, sef "Mae Siôn eisiau paned" ac "Mae eisiau paned ar Siôn." Dwi'n meddwl, erbyn hyn, mae wedi dod i olygu "I want" heb fod â'r "diffyg" ohono - mae 'na ddiffyg o de arna i, felly dwi'i angen / mae'i angen arnaf. Yr un peth â "moyn/mynnu" i olygu "I want."
Dwi'n meddwl ei fod yn dibynnu ar y sefyllfa (ond nid oed modd dweud pa sefyllfaoedd!), ond o fewn y pum mlynedd nesaf, byddaf yn dweud fod y ddau'n dderbyniol, ar lafar ac ysgrifennu. Mae popeth yn dod i lawr i safoni, ond os yw'r genhedlaeth nesaf yn tyfu wrth ddweud ac ysgrifennu "Dwi eisiau paned," wedyn siŵr o fod fydd hwn y ffordd safonol o'i gyflwyno ayyb.