dwi angen gwybod

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dwi angen gwybod

Postiogan sian » Gwe 09 Gor 2010 10:18 am

Ydi ymadroddion fel "Ydych chi angen rhywbeth?", "Roedd John angen esgidiau newydd", "Mae Huw eisiau mynd i'r dre" yn dderbyniol mewn Cymraeg ffurfiol erbyn hyn?
Dw i newydd gywiro sawl enghraifft wrth olygu dogfen swyddogol ond wedyn ro'n i'n teimlo braidd yn gas achos dw i wedi'i weld mewn dogfennau swyddogol a'i glywed ar newyddion Radio Cymru.

Mae Briws yn dweud "the common construction "rwy eisiau", "wyt ti isho?" etc are incorrect".

Datblygiad naturiol / bratiaith ?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: dwi angen gwybod

Postiogan Chwadan » Gwe 09 Gor 2010 10:22 am

Be di'r ffurf gywir?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: dwi angen gwybod

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 09 Gor 2010 10:39 am

Swni'n dadlau mewn Cymraeg ffurfiol y byddai'r ffurfiau traddodiadol "Oes angen rhywbeth arnoch chi?" neu "Roedd angen esgidiau newydd ar John" yn fwy priodol mewn dogfen ffurfiol. Yn bersonol, dwi'm yn eu gweld nhw'n ofnadwy o chwithig nag yn or-ffurfiol chwaith. Gan ddweud hynny swni'm yn dweud bod yr enghreifftiau wnes ti eu nodi yn 'annerbyniol', mae'n siwr i raddau helaeth mae'n dibynnu ar natur y darn.

Wn i ddim am y drydedd enghraifft, ond baswn i'n dadlau bod hwnnw'n iawn mewn dogfen ffurfiol - dwi byth 'di licio defnyddio 'am' yn hytrach nag 'eisiau' fy hun.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: dwi angen gwybod

Postiogan sian » Gwe 09 Gor 2010 10:45 am

Chwadan a ddywedodd:Be di'r ffurf gywir?


Mewn Cymraeg ffurfiol:

"Ydych chi angen rhywbeth?", > Oes arnoch chi angen rhywbeth? / Oes angen rhywbeth arnoch chi?

"Roedd John angen esgidiau newydd" > Roedd ar John angen esgidiau newydd / Roedd angen esgidiau newydd ar John

"Mae Huw eisiau mynd i'r dre" > Mae ar Huw eisiau mynd i'r dre / Mae Huw'n dymuno mynd i'r dre

PWT yn dweud bod rhai tafodieithoedd yn trin angen, eisiau ac ofn fel hyn - "Dwi ofn". Mae'n dweud ei bod hi'n "gystrawen ansafonol" sy'n cael ei defnyddio weithiau mewn arddulliau anffurfiol "eithr nid yw'r gystrawen newydd wedi ei chyffredinoli i bob cyd-destun gan bawb sy'n ei harfer".

Diolch Hogyn
Fues i'n gweithio ar lyfr i blant ac ro'n i'n aml yn gweld "Roedd ar y brenin eisiau mynd i wlad arall" yn rhy ffurfiol ond "Roedd y brenin eisiau ..." yn rhy anffurfiol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: dwi angen gwybod

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 09 Gor 2010 9:56 pm

"Roedd y brenin am fynd..." efallai?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: dwi angen gwybod

Postiogan xxglennxx » Maw 13 Gor 2010 2:40 pm

sian a ddywedodd:Ydi ymadroddion fel "Ydych chi angen rhywbeth?", "Roedd John angen esgidiau newydd", "Mae Huw eisiau mynd i'r dre" yn dderbyniol mewn Cymraeg ffurfiol erbyn hyn?
Dw i newydd gywiro sawl enghraifft wrth olygu dogfen swyddogol ond wedyn ro'n i'n teimlo braidd yn gas achos dw i wedi'i weld mewn dogfennau swyddogol a'i glywed ar newyddion Radio Cymru.

Mae Briws yn dweud "the common construction "rwy eisiau", "wyt ti isho?" etc are incorrect".

Datblygiad naturiol / bratiaith ?


Maent dysgu hyn ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ond wrth imi gyrraedd hwn, byddaf yn eu dysgu'r ddwy ffordd, sef "Mae Siôn eisiau paned" ac "Mae eisiau paned ar Siôn." Dwi'n meddwl, erbyn hyn, mae wedi dod i olygu "I want" heb fod â'r "diffyg" ohono - mae 'na ddiffyg o de arna i, felly dwi'i angen / mae'i angen arnaf. Yr un peth â "moyn/mynnu" i olygu "I want."

Dwi'n meddwl ei fod yn dibynnu ar y sefyllfa (ond nid oed modd dweud pa sefyllfaoedd!), ond o fewn y pum mlynedd nesaf, byddaf yn dweud fod y ddau'n dderbyniol, ar lafar ac ysgrifennu. Mae popeth yn dod i lawr i safoni, ond os yw'r genhedlaeth nesaf yn tyfu wrth ddweud ac ysgrifennu "Dwi eisiau paned," wedyn siŵr o fod fydd hwn y ffordd safonol o'i gyflwyno ayyb.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron