Tudalen 1 o 1

Cyfieithiad gorau o "violent rape"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 10:05 pm
gan pysgodyn_piws
Oes gan rywun unrhyw awgrymiadadau ynglyn a'r ffordd orau i gyfieithu hyn?

Dyma'r cyd-destun:

"I believe Moffet’s translation of “violent rape” is probably the closest".

Re: Cyfieithiad gorau o "violent rape"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 10:48 pm
gan bartiddu
Trais Mileinig? :?

"Credaf mae cyfiaethiad Moffet o "drais mileinig" yw'r agosaf".

Dyna fy nghynnig i, well i ti aros am yr arbennigwyr am gynnig gwell! :)

Re: Cyfieithiad gorau o "violent rape"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 11:00 pm
gan sian
pysgodyn_piws a ddywedodd:Oes gan rywun unrhyw awgrymiadadau ynglyn a'r ffordd orau i gyfieithu hyn?

Dyma'r cyd-destun:

"I believe Moffet’s translation of “violent rape” is probably the closest".


Beth am rywbeth fel:

"Yn fy marn i, mae'n debygol mai cyfieithiad Moffet o "violent rape" yw'r agosaf ati" ?

Os mai cyfieithu o'r Saesneg wnaeth Moffet, mae'n siwr y dylid gadael y geiriau yn Saesneg. Ie?

Re: Cyfieithiad gorau o "violent rape"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 11:19 pm
gan pysgodyn_piws
Ie, dyna fyddai orau siwr ynte.
Diolch Sian :)

O'r Hebraeg oedd Moffet yn cyfieithu gyda llaw Sian, fe anghofiais nodi hynny.

Re: Cyfieithiad gorau o "violent rape"?

PostioPostiwyd: Maw 13 Gor 2010 11:25 pm
gan pysgodyn_piws
bartiddu a ddywedodd:Trais Mileinig? :?

"Credaf mae cyfiaethiad Moffet o "drais mileinig" yw'r agosaf".

Dyna fy nghynnig i, well i ti aros am yr arbennigwyr am gynnig gwell! :)


Fe wnes i ystyried rhywbeth tebyg i hynna, ond dod i'r canlyniad nad oedd yn cyfleu mai ymosodiad rhywiol ydoedd.

Fe wnes i feddwl am rywbeth fel "treisiad ffyrnig" ond dwi ddim yn hollol siwr a oes y fath air a threisiad? Dwi'n gwybod bod "treisio" yn cael ei ddefnyddio ond chlywais i ddim o'r gair "treisiad" dwi'n meddwl.

Re: Cyfieithiad gorau o "violent rape"?

PostioPostiwyd: Iau 15 Gor 2010 11:33 pm
gan tommybach
treisiad ffyrnig?

swnio fel breuddwyd gwlyb ayn rand

Re: Cyfieithiad gorau o "violent rape"?

PostioPostiwyd: Sad 17 Gor 2010 8:28 am
gan adamjones416
Treisiaid Mileinig/ffrynig baswn i'n dweud.