Tudalen 1 o 1

Cymraeg crach

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2010 9:09 pm
gan robin hughes
Ar ol dod yn ol i fyw yn Sir Fon mi wnes i ddechrau darllen llyfr cymraeg. Yr oedd yn rhaid i mi edrych bob munud yn y geiriadur i ddarganfod beth oedd y gair yn feddwl!Mi synais i ddarganfod bod y geiriau yn eiriau cyffredin yn saesneg. Mi ofynais ibobol o gwmpas fy ardal yn Sir fon a'r ateb oedd bod y geiriau yma yn gymtaeg "posh"
Dyma restr o'r geiriau a oedd yn ddiethr i mi fel sais wedi dysgu cymraeg! Brwdfrydig, anysturiol, bondigrybwyll,anweledig,llid,llaith,bruddglwyfus,gwawd.godidog,llofnod,etc,etc
Ar ol cyfarfod dyn a oedd yn siarad cymraeg "perffaith" medda fo, mi ofynais be oedd y gair am "enthusiastic" fe atebodd --"KEEN"!
Yr wyf yn ofn bod yr unig bobol sydd yn deall yr iaith yw'r gweinidogion.athrawon a pobol academaidd!Mewn capel yn sul me wnes i ofyn i lawer o'r oedolion a oedden nhw yn deall am beth oedd y parchedig yn son? Yr oedd y rhan fwyaf ddim yn deall dim gair o'r iaith biblaidd. Yr ydyw i yn meddwl bod llawer o bobl y n rhy ddiog i ddysgu geiriau sydd yn cael ei ddefnyddio er engraifft ar radio cymru ac ar S4c. Mewn llefudd fel Bangor mae'r iaith yn diflanu yn araf deg. Mae'r dysgwyr yn siarad cymraeg mwy cywir. A oes gobaith i'r hen iaith barhau!


[Gol - Wedi symud y pwnc at seiat mwy addas]

Re: Cymraeg crach

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2010 9:40 pm
gan ceribethlem
robin hughes a ddywedodd:Ar ol dod yn ol i fyw yn Sir Fon mi wnes i ddechrau darllen llyfr cymraeg. Yr oedd yn rhaid i mi edrych bob munud yn y geiriadur i ddarganfod beth oedd y gair yn feddwl!Mi synais i ddarganfod bod y geiriau yn eiriau cyffredin yn saesneg. Mi ofynais ibobol o gwmpas fy ardal yn Sir fon a'r ateb oedd bod y geiriau yma yn gymtaeg "posh"
Dyma restr o'r geiriau a oedd yn ddiethr i mi fel sais wedi dysgu cymraeg! Brwdfrydig, anysturiol, bondigrybwyll,anweledig,llid,llaith,bruddglwyfus,gwawd.godidog,llofnod,etc,etc
Ar ol cyfarfod dyn a oedd yn siarad cymraeg "perffaith" medda fo, mi ofynais be oedd y gair am "enthusiastic" fe atebodd --"KEEN"!
Yr wyf yn ofn bod yr unig bobol sydd yn deall yr iaith yw'r gweinidogion.athrawon a pobol academaidd!Mewn capel yn sul me wnes i ofyn i lawer o'r oedolion a oedden nhw yn deall am beth oedd y parchedig yn son? Yr oedd y rhan fwyaf ddim yn deall dim gair o'r iaith biblaidd. Yr ydyw i yn meddwl bod llawer o bobl y n rhy ddiog i ddysgu geiriau sydd yn cael ei ddefnyddio er engraifft ar radio cymru ac ar S4c. Mewn llefudd fel Bangor mae'r iaith yn diflanu yn araf deg. Mae'r dysgwyr yn siarad cymraeg mwy cywir. A oes gobaith i'r hen iaith barhau!


[Gol - Wedi symud y pwnc at seiat mwy addas]

Bydden i'n gweud fod y geiriau wedi eu bowldio yn rhai cyffredin o hyd. Eraill fel anysturiol, llid a gwawd yn weddol gyffredin, ond yn llai cyffredin na'r grwp blaenorol. Yr unig air 'wy'n hollol anghyfarwydd gyda yw bruddglwyfus.

Re: Cymraeg crach

PostioPostiwyd: Gwe 13 Awst 2010 10:47 pm
gan bartiddu
Rhai blynydde nol treulies i rhyw flwyddyn a mwy yn atal fy hyn rhag gweud y geirie bratiaith, a mynd i siarad bach fel "Ianto Ffwl Pelt" o bantomeim Felinfach gynt, hynny yw "y y y y y y y y y y" ag oedi'r brawddeg tra'n edrych lan yn y Collins Gem beth oedd y gair priodol Cymraeg. Wedyn neud nodyn bach mewn llyfr geirie newydd personnol.
Diawch gwellodd fy nghymraeg llafar dros y misoedd canlynol. Sneb rhy hen i ddysgu! :)

Dwi wedi dod i nabod llwyth o bobol ifanc o wledydd ewrop trw'r we ar fforwm gemau, sy'n siarad saesneg yn berfaith fel ail iaith, ond mae'n yffarn i, ma nhw'n cadw'u mamiaith yn bur hefyd, fel dyle ni Cymry ceisio neud, mae gallu fod yn ddigon rhwydd i ddweud bod yn ddiog yw hi i beidio, neu wedyn dadle fod rhywyn yn rhy "welsh nash" i ymredchi i ddefnyddio'r 'geirie mawr'..... lawr i'r unigolyn ynde, ond diawch, gwinllan a rhoddwyd! :ffeit: ... dal i ddysgu! :)

Re: Cymraeg crach

PostioPostiwyd: Sad 14 Awst 2010 7:39 am
gan sian
Wrth i lai o bobol fynd i'r capel, darllen Cymraeg, gwylio S4C a gwrando ar Radio Cymru (efallai :D ), - hynny yw, dim ond defnyddio'r Gymraeg gyda'u teulu a'u ffrindiau, mae'r eirfa'n siwr o gyfyngu.
Ond wedyn dwi'n meddwl bod rhyw fath o ffasiwn dweud 'Dwi'm yn deall geiriau mawr Cymraeg / Cymraeg dwfwn" - lle na bysen nhw ddim yn cyfadde nad oedden nhw'n deall geiriau mawr Saesneg chwaith.

Re: Cymraeg crach

PostioPostiwyd: Sad 14 Awst 2010 10:24 am
gan nicdafis
Pobl sy'n darllen mwy sydd â mwy o eirfa, mewn unrhyw iaith. Dw i'n mynd trwy adegau o wneud fel mae bartiddu yn ei wneud, cadw cofnod o bob gair newydd wrth i mi ddod ar ei draws, mewn llyfr bach du, a dw i mewn un o'r adegau 'na ar hyn o bryd. Dysgu geirfa newydd yw ei wobor ei hun, i fanglo idiom Saesneg.

Mae sian yn llygad ei lle am "inverted snobbery" ieithyddol rhai Cymry. Mae rhesymau am hyn yn ddwfn yn hanes cymdeithasol ein gwlad a'r un drws nesa, a siwr o fod yn hanes personol pob Cymro a phob un sy wedi dysgu'r iaith.