Tudalen 1 o 1

Oes bardd yma?

PostioPostiwyd: Iau 26 Awst 2010 8:13 pm
gan yavannadil
All rhywun droi hwn yn gerdd go iawn, os gwelwch yn dda?

Ni fu marw eto na bri na rhyddid Wcráin,
Gwenith y ffawd i ni, brodyr Wcreiniaid,
Trengith ein gelynion ni fel gwlith yn llygad yr haul,
Byddwn ni'n llywodraethu yn ein gwlad ni!

Gollwn enaid a chorff dros ein rhyddid
A phrofwn ein bod ni o'r bôn Cosac!

http://www.youtube.com/watch?v=t06ngJez ... re=related

Re: Oes bardd yma?

PostioPostiwyd: Iau 26 Awst 2010 8:51 pm
gan adamjones416
Beth wyt ti'n ei olygu wrth farddoniaeth neu fardd go iawn? Rhywun sydd yn gallu troi'r hyn y sgrifennaist yn gynghannedd ar fesur caeth? Neu rywun sydd yn gallu'i newid i odli a gwneud mwy o synnwyr?

Galla i addasu fe ond ei droi'n gynganeddol? Na yw'r ateb yn anffodus :( ond mi ddysga i, ond fe driai 'ngore i ti :)

Re: Oes bardd yma?

PostioPostiwyd: Iau 26 Awst 2010 9:03 pm
gan adamjones416
Wcrain a'th bri a'th rhyddid yn gadarn
Ein trysor yw'n pobl, Wcreiniaid i'r carn
Trechwn ein gelynion nes farwolaeth ddyn
A ninnau fydd yn rheoli ein gwlad ni'n hun.

Eneidiau a chollwyd mor flin, mor grac
Ond tan sydd dal i losgi yn nghalon y Cosac.

Siwr bydd rhai gwell :P

Re: Oes bardd yma?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Awst 2010 5:47 pm
gan yavannadil
Nawr, mae hi'n gyflym! Diolch yn fawr iawn!

Bydd rhaid i fi ddod o hyd rhywun sy'n gallu canu hyn gyda'r alaw wreiddiol

adamjones416 a ddywedodd:a gwneud mwy o synnwyr?

Ydy fy nghyfieithiad i heb synnwyr weithiau?

Re: Oes bardd yma?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Awst 2010 6:00 pm
gan adamjones416
Nana dim o gwbwl, mae'n gwneud perffaith synnwyr, yr hyn yr oeddwn i'n cyfeirio ati oedd ei droi'n gerdd lol. Paid a phoeni :)