Tudalen 1 o 1

Piggyback

PostioPostiwyd: Sul 05 Medi 2010 4:21 am
gan mawrthgarwr
Yn GyA ceir:

piggy ~-back 1. adv. to carry s.o. ~-back, N.W: rhoi corn bwch i rn, cario rhn yn gocyn ceiliog, S.W: cario rhn yn gocyn coch.


Yn anffodus nid oes cyfeiriad at y weithred o gael neu fynd ar "piggyback", dim ond at y weithred o roi "piggyback".

Chwilio am drosiad o'r term Piggybacking (internet access) ydwyf,

Re: Piggyback

PostioPostiwyd: Sul 05 Medi 2010 12:27 pm
gan osian
Asu, ma'r cyfieithiada' yn reit ffiaidd!

Re: Piggyback

PostioPostiwyd: Sul 05 Medi 2010 1:02 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n cymryd bod 'na ddim term Cymraeg safonol ar gyfer hyn! Wyt ti'n chwilio am derm neu oes modd ei ddweud o'n 'llawn' (h.y. "dwyn rhyngrwyd", "cael mynediad anghyfreithlon i'r rhyngrwyd", "defnyddio rhyngrwyd rhywun arall yn anghyfreithlon" a.y.y.b.)?