Tudalen 1 o 1

Strab

PostioPostiwyd: Iau 30 Medi 2010 4:21 pm
gan Bwchdanas
Oes unrhywun yn gyfarwydd ar term "strab"? Rwy'n cofio ei ddefnyddio yn debyg i slapper, ond falle ddim cweit mor rhywiol. Ceisio i gael cyfeithiad/dehongliad o'r gair i'w esbonio i'r grwaig (Saesnes) ydw I.

Re: Strab

PostioPostiwyd: Iau 30 Medi 2010 5:05 pm
gan sian
I fi, mae "strab" yn golygu "cês" am fachgen - a "haden" am ferch. Mae "haden" yn gallu bod ag ystyr rywiol - dibynnu shwt ti'n weud e.

Re: Strab

PostioPostiwyd: Iau 30 Medi 2010 11:31 pm
gan Ray Diota
sian a ddywedodd:I fi, mae "strab" yn golygu "cês" am fachgen - a "haden" am ferch. Mae "haden" yn gallu bod ag ystyr rywiol - dibynnu shwt ti'n weud e.


i fi, ma fe bron yn gyfystyr a'r ffor ni'n iwso'r gair ofnadw 'legend'. boi/blew sy'n joio!