Ydi peidio lluosogi'r ansoddair yn ddigon derbyniol y dyddia' yma dudwch? Yn enwedig mewn cerdd neu gan - weithia mae o'n swnio'n hen ffashiwn, a weithia mae o'n swnio'n hyfryd.
I fynd a fo gam ymhellach, ydi'r arferiad o luosogi'r ansoddair yn gwneud synnwyr go iawn? Cymerwch 'adeiladau mawrion' fel enghraifft - dwi ddim cweit yn gweld sut y medr ansoddair gael ei luosogi, achos yn ei hanfod tydi o ddim yn rhywbeth fedr gael ei gyfri. Mae na fwy na un adeiliad, digon gwir, ond dim ond un mawr, a'r mawr hwnnw sy'n gyffredin rhwng yr adeiladau. Toes 'na ddim 'mawr' ar wahan yn perthyn i bob adeilad yn unigol, yn nag oes?
Ynteu fi sydd yn rhy gyfarwydd efo cystrawen Saesneg i allu gwneud sens?