Tudalen 1 o 1

Lluosogi'r ansoddair

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 8:01 pm
gan Ramirez
Ydi peidio lluosogi'r ansoddair yn ddigon derbyniol y dyddia' yma dudwch? Yn enwedig mewn cerdd neu gan - weithia mae o'n swnio'n hen ffashiwn, a weithia mae o'n swnio'n hyfryd.

I fynd a fo gam ymhellach, ydi'r arferiad o luosogi'r ansoddair yn gwneud synnwyr go iawn? Cymerwch 'adeiladau mawrion' fel enghraifft - dwi ddim cweit yn gweld sut y medr ansoddair gael ei luosogi, achos yn ei hanfod tydi o ddim yn rhywbeth fedr gael ei gyfri. Mae na fwy na un adeiliad, digon gwir, ond dim ond un mawr, a'r mawr hwnnw sy'n gyffredin rhwng yr adeiladau. Toes 'na ddim 'mawr' ar wahan yn perthyn i bob adeilad yn unigol, yn nag oes?

Ynteu fi sydd yn rhy gyfarwydd efo cystrawen Saesneg i allu gwneud sens?

Re: Lluosogi'r ansoddair

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 9:30 pm
gan Llais Sais
Efallai cymhariaeth ddrwg yw cystrawen Saesneg - mae lluosogi ansoddeiriau yn digwydd yn y Ffrangeg er enghraifft, megis "les grands bâtiments".

Re: Lluosogi'r ansoddair

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 9:36 pm
gan Ramirez
Llais Sais a ddywedodd:Efallai cymhariaeth ddrwg yw cystrawen Saesneg - mae lluosogi ansoddeiriau yn digwydd yn y Ffrangeg er enghraifft, megis "les grands bâtiments".


Diolch. Dyna oni'n ei feddwl mewn gwirionedd - efallai am nad ydio'n digwydd yn Saesneg y mae o'n swnio'n od i mi.

Re: Lluosogi'r ansoddair

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 9:49 pm
gan sian
Dyma sydd gan Arddulliadur Llywodraeth Cynulliad Cymru i'w ddweud:
"Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hynny’n helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Pobl Ifanc. Ond nid ydym yn deddfu ynghylch ffurfiau fel ‘gwyntoedd cryf/cryfion’."

Dwi'n meddwl bod pobl y gogledd yn fwy tueddol o ddefnyddio ansoddeiriau lluosog na phobl y de. Dwi'n cofio'r mab hynaf yn dweud pan oedd e tua thair oed a wedi bod yn cael ei warchod gan ei nain, "Ma'n sana i'n wlybion" - oedd e'n swnio'n rhyfedd iawn i mi. :D :D

Re: Lluosogi'r ansoddair

PostioPostiwyd: Llun 04 Hyd 2010 9:56 pm
gan Ramirez
sian a ddywedodd:Dyma sydd gan Arddulliadur Llywodraeth Cynulliad Cymru i'w ddweud:
"Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hynny’n helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Pobl Ifanc. Ond nid ydym yn deddfu ynghylch ffurfiau fel ‘gwyntoedd cryf/cryfion’."

Dwi'n meddwl bod pobl y gogledd yn fwy tueddol o ddefnyddio ansoddeiriau lluosog na phobl y de. Dwi'n cofio'r mab hynaf yn dweud pan oedd e tua thair oed a wedi bod yn cael ei warchod gan ei nain, "Ma'n sana i'n wlybion" - oedd e'n swnio'n rhyfedd iawn i mi. :D :D


Diolch Sian! Felly does na ddim un yn cael ei weld yn gwir na'n anghywir felly mewn, ac mi gai fynd ar chwiw a ffansi?!

Mae o'n arferiad bach digri, yn tydi?

Re: Lluosogi'r ansoddair

PostioPostiwyd: Mer 06 Hyd 2010 6:59 am
gan Seonaidh/Sioni
Defnyddiwch os mynnwch, peidiwch os na. Mae pethau tebyg[ion] yn digwydd yng Ngaeleg yr Alban. Am Saesneg, mae rhywbeth braidd yn ddieithr yn digwydd: be di lluosog "manservant", er enghraifft? Yn swyddogol (hyd am wn i), "menservants". Ond dyma'r enw "man" yn cael ei ddefnyddio fel ansoddair...