Beth ydy'r lluosgo o bili pala - pili palas? Oes 'na air arall?
A sut mae pobl yn dweud 'burp' yn Gymraeg - ( paid a dweud 'bwrpio' - plis!)
Diolch.
Cymedrolwr: Gwen
Doctor Sanchez a ddywedodd:Pili Pala - Glöyn Byw
Pili Palas - Glöynnod Byw
Ne ella fysa hwntws yn galw nhw'n iar/ieir bach yr haf.
Burp - Torri Gwynt
Doctor Sanchez a ddywedodd:Pili Pala - Glöyn Byw
Ne ella fysa hwntws yn galw nhw'n iar/ieir bach yr haf.
Macsen a ddywedodd:
bytheirio / bytheiriad / bytheiriadau (ond swn im yn meddwl bod Bruce ei hyn yn dweud hyn mewn gwirionedd)
sian a ddywedodd:Macsen a ddywedodd:
bytheirio / bytheiriad / bytheiriadau (ond swn im yn meddwl bod Bruce ei hyn yn dweud hyn mewn gwirionedd)
Wel, wel! Wyddwn i ddim o hynny. "Bytheirio" i mi yw cega a gweiddi a bygwth.
Pecial swn i'n gweud am burp.
Ray Diota a ddywedodd:beth yw torri gwynt: rhechen ne byrpan? pobol 'da atebion gwahanol yn y swyddfa 'ma lle dwi...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 47 gwestai