Tudalen 1 o 2

Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 30 Hyd 2010 7:20 pm
gan Dafydd ab Iago
Beth ydy'r lluosgo o bili pala - pili palas? Oes 'na air arall?

A sut mae pobl yn dweud 'burp' yn Gymraeg - ( paid a dweud 'bwrpio' - plis!)

Diolch.

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 30 Hyd 2010 9:51 pm
gan Macsen
pili-palaod

bytheirio / bytheiriad / bytheiriadau (ond swn im yn meddwl bod Bruce ei hyn yn dweud hyn mewn gwirionedd)

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 30 Hyd 2010 10:57 pm
gan Doctor Sanchez
Pili Pala - Glöyn Byw
Pili Palas - Glöynnod Byw

Ne ella fysa hwntws yn galw nhw'n iar/ieir bach yr haf.


Burp - Torri Gwynt

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 31 Hyd 2010 6:04 pm
gan Dafydd ab Iago
Doctor Sanchez a ddywedodd:Pili Pala - Glöyn Byw
Pili Palas - Glöynnod Byw

Ne ella fysa hwntws yn galw nhw'n iar/ieir bach yr haf.


Burp - Torri Gwynt



Wrth gwrs! Diolch yn fawr.

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2010 10:46 am
gan einionyn
Doctor Sanchez a ddywedodd:Pili Pala - Glöyn Byw

Ne ella fysa hwntws yn galw nhw'n iar/ieir bach yr haf.



Ynteu
Ieir bychain yr haf?

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2010 11:16 am
gan sian
Macsen a ddywedodd:
bytheirio / bytheiriad / bytheiriadau (ond swn im yn meddwl bod Bruce ei hyn yn dweud hyn mewn gwirionedd)


Wel, wel! Wyddwn i ddim o hynny. "Bytheirio" i mi yw cega a gweiddi a bygwth.
Pecial swn i'n gweud am burp.

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2010 11:58 am
gan Ray Diota
sian a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
bytheirio / bytheiriad / bytheiriadau (ond swn im yn meddwl bod Bruce ei hyn yn dweud hyn mewn gwirionedd)


Wel, wel! Wyddwn i ddim o hynny. "Bytheirio" i mi yw cega a gweiddi a bygwth.
Pecial swn i'n gweud am burp.


ma bytheirio yn cysgeir fel 'belch' ond wy'n meddwl fel siân...

beth yw torri gwynt: rhechen ne byrpan? pobol 'da atebion gwahanol yn y swyddfa 'ma lle dwi...

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2010 1:21 pm
gan Doctor Sanchez
Ray Diota a ddywedodd:beth yw torri gwynt: rhechen ne byrpan? pobol 'da atebion gwahanol yn y swyddfa 'ma lle dwi...


Torri gwynt di byrpio yn y Gogledd

Dwi'm yn meddwl sa chdi byth yn ymddiheuro am dorri gwynt ar ol taro rhech. Sa chdi'n deud 'sori dwi taro un/gollwng un/rhechan'

A rhigian sw'n i'n ddeud am hiccups. Dio run peth lawr Sowth?

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 02 Tach 2010 1:35 pm
gan Ray Diota
hig

higian

sef yr hig... so... rhig... rhigian! ydi, ma'r un peth!

(er mai blydi hicyps fydden i'n gweud :( )

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 03 Tach 2010 6:26 pm
gan Kez
Oes 'na wahaniath rhwng cnec a rhech te?

Wi'n cofio rhwyun yn gwed wrtho i bod y ddou air yn onomatopeig a bod 'na wahaniath rhyngddynt - cnec yn un sneaky a rhech yn un full-blooded. Ody pobol eraill yn ei chlywed hi fel 'na?