Tudalen 2 o 2

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 03 Tach 2010 8:06 pm
gan Duw
Cofio mamgu yn dweud rhig am 'burp' - er dwi'n meddwl ei bod yn meddwl 'hiccups' i guddio'r ffaith y gwnaeth byrpan. Nes i byth ffindo mas beth oedd rhig. Tan nawr.

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 03 Tach 2010 8:14 pm
gan osian
igian / yr ig ydi'r Gymraeg am hiccups.

Pŷl pala ydi lluosog pili pala siŵr dduw.

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 03 Tach 2010 9:59 pm
gan Doctor Sanchez
osian a ddywedodd:Pŷl pala ydi lluosog pili pala siŵr dduw.


Dwn im am honna.

Pili Palaod ia ddim?

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2010 9:46 pm
gan Duw
Pah! Chi â'ch pili palas. Ieir bach (bychain) yr haf.

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2010 10:12 pm
gan huwwaters
Iar fach yr haf neu ieir bychain yr haf. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio'n y gogledd hefyd!

Burp ydi chwalu gwynt.

Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 04 Tach 2010 10:21 pm
gan osian
gloyn byw ydi'r gair iawn.