Tudalen 2 o 2
Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg
Postiwyd:
Mer 03 Tach 2010 8:06 pm
gan Duw
Cofio mamgu yn dweud rhig am 'burp' - er dwi'n meddwl ei bod yn meddwl 'hiccups' i guddio'r ffaith y gwnaeth byrpan. Nes i byth ffindo mas beth oedd rhig. Tan nawr.
Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg
Postiwyd:
Mer 03 Tach 2010 8:14 pm
gan osian
igian / yr ig ydi'r Gymraeg am hiccups.
Pŷl pala ydi lluosog pili pala siŵr dduw.
Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg
Postiwyd:
Mer 03 Tach 2010 9:59 pm
gan Doctor Sanchez
osian a ddywedodd:Pŷl pala ydi lluosog pili pala siŵr dduw.
Dwn im am honna.
Pili Palaod ia ddim?
Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg
Postiwyd:
Iau 04 Tach 2010 9:46 pm
gan Duw
Pah! Chi â'ch pili palas. Ieir bach (bychain) yr haf.
Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg
Postiwyd:
Iau 04 Tach 2010 10:12 pm
gan huwwaters
Iar fach yr haf neu ieir bychain yr haf. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio'n y gogledd hefyd!
Burp ydi chwalu gwynt.
Re: Lluosog pili pala + burp yn Gymraeg
Postiwyd:
Iau 04 Tach 2010 10:21 pm
gan osian
gloyn byw ydi'r gair iawn.