Tudalen 1 o 1

Dwyn ffrwyth - oes yna idiom Saesneg sy'n dweud yr un fath?

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 1:16 pm
gan -Orion yr Heliwr-
Dwi'n cymryd nad ydi 'bear fruit' yn gyfieithiad priodol :winc:

Re: Dwyn ffrwyth - oes yna idiom Saesneg sy'n dweud yr un fa

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 3:00 pm
gan Kez
Dwyn ffrwyth - bear fruit, yield results, pay dividends, pay off, make good, bloom, blossom, flower ...

Re: Dwyn ffrwyth - oes yna idiom Saesneg sy'n dweud yr un fa

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 3:34 pm
gan GringoOrinjo
Onid idiom sy'n tarddu o'r saesneg ydi "dwyn ffrwyth"? To bring a plan into fruition.

Re: Dwyn ffrwyth - oes yna idiom Saesneg sy'n dweud yr un fa

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 4:49 pm
gan Kez
GringoOrinjo a ddywedodd:Onid idiom sy'n tarddu o'r saesneg ydi "dwyn ffrwyth"? To bring a plan into fruition.


Nage ddim -- mae meddwl dyn ymhob iaith yn gallu deall bod coeden neu blanhigyn sy'n dwyn ffrwyth yn golygu llwyddiant a rhywbeth dymunol yn yr ystyr ffigurol.

Ystyr ychwanegol ffigurol sydd i 'dwyn ffrwyth' fel ag sydd i 'bear fruit' a'r un peth mewn llawer i iaith arall - dar/rendir fruto yn Sbaeneg a porter des fruits yn Ffrangeg er enghraifft.

Doedd dim angen y Sais i'r Cymro greu'r idiom 'na!!