Enwau lleoedd gyda dwy N

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Enwau lleoedd gyda dwy N

Postiogan Pryderi » Sul 13 Chw 2011 10:03 am

Mae trafodaeth ar wefan Saesneg Geograph pam fod gan rai enwau lleoedd Cymraeg (yn fwy penodol, afonydd) dwy N:

http://www.geograph.org.uk/discuss/inde ... opic=13015

All unrhyw un gynnig ateb?
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Re: Enwau lleoedd gyda dwy N

Postiogan huwwaters » Maw 15 Chw 2011 4:47 pm

Oeddwn i'n meddwl mai'r rheol gyffredinol dros ddwblu 'n' ac 'r' oedd i ddangos pwyslais acennog ar llafariaid, neu'r stress.

Enghraifft:

Mae dwy air 'ton' a 'tôn'. I wneud y ddwy air yn lluosog, yr ydym yn ychwanegu -au, ond i gadw'r acen hir sydd i'w gael yn ô yn tôn, mae angen gwahaniaethu.

Felly mae tôn yn dod yn tonau, a ton yn mynd yn tonnau. Does dim pwyslais yn cael ei roi i'r 'o' a'r 'a' yn tonnau felly mae anegn dwblu'r lythyren. Ar y llaw arall, mae pwyslais ar yr 'o' yn tonau felly does dim dwblu llythyren.

Felly dwblu llythryen pan fo'r acenion ar llafariaid naill ochr i'r llythryen yn gyflym.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 6 gwestai

cron