Tudalen 1 o 1

Enwau lleoedd gyda dwy N

PostioPostiwyd: Sul 13 Chw 2011 10:03 am
gan Pryderi
Mae trafodaeth ar wefan Saesneg Geograph pam fod gan rai enwau lleoedd Cymraeg (yn fwy penodol, afonydd) dwy N:

http://www.geograph.org.uk/discuss/inde ... opic=13015

All unrhyw un gynnig ateb?

Re: Enwau lleoedd gyda dwy N

PostioPostiwyd: Maw 15 Chw 2011 4:47 pm
gan huwwaters
Oeddwn i'n meddwl mai'r rheol gyffredinol dros ddwblu 'n' ac 'r' oedd i ddangos pwyslais acennog ar llafariaid, neu'r stress.

Enghraifft:

Mae dwy air 'ton' a 'tôn'. I wneud y ddwy air yn lluosog, yr ydym yn ychwanegu -au, ond i gadw'r acen hir sydd i'w gael yn ô yn tôn, mae angen gwahaniaethu.

Felly mae tôn yn dod yn tonau, a ton yn mynd yn tonnau. Does dim pwyslais yn cael ei roi i'r 'o' a'r 'a' yn tonnau felly mae anegn dwblu'r lythyren. Ar y llaw arall, mae pwyslais ar yr 'o' yn tonau felly does dim dwblu llythyren.

Felly dwblu llythryen pan fo'r acenion ar llafariaid naill ochr i'r llythryen yn gyflym.