Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati
Cymedrolwr: Gwen
gan cspd » Llun 07 Maw 2011 10:02 pm
Sori os taw cwestiwn dwp yw hwn, ond pam does dim treiglad ar ôl "am" yn y dywediad "Cymru am byth"?
(pam 'dyn ni ddim yn dweud "Cymru am fyth"?)
-
cspd
- Defnyddiwr
-
- Negeseuon: 2
- Ymunwyd: Llun 07 Maw 2011 9:59 pm
gan sian » Llun 07 Maw 2011 10:27 pm
Dim yn dwp o gwbl!
Do'n i erioed wedi meddwl am y peth.
Yn ôl T J Morgan yn Treigladau a'u Cystrawen "Diau mai natur arbennig y gaith "byth" sy'n cyfrif am y gysefin yma".
Mae'n dweud bod "tros byth" yn digwydd hefyd.
-
sian
- Gweinyddwr
-
- Negeseuon: 3413
- Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
- Lleoliad: trefor
-
gan cspd » Llun 07 Maw 2011 10:40 pm
Diolch, Sian! Tybed faint o eithriadau sy' 'na i gyd..
-
cspd
- Defnyddiwr
-
- Negeseuon: 2
- Ymunwyd: Llun 07 Maw 2011 9:59 pm
Dychwelyd i Defnydd yr Iaith
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai