Cymru am byth

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru am byth

Postiogan cspd » Llun 07 Maw 2011 10:02 pm

Sori os taw cwestiwn dwp yw hwn, ond pam does dim treiglad ar ôl "am" yn y dywediad "Cymru am byth"?
(pam 'dyn ni ddim yn dweud "Cymru am fyth"?)
cspd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2011 9:59 pm

Re: Cymru am byth

Postiogan sian » Llun 07 Maw 2011 10:27 pm

Dim yn dwp o gwbl!

Do'n i erioed wedi meddwl am y peth.

Yn ôl T J Morgan yn Treigladau a'u Cystrawen "Diau mai natur arbennig y gaith "byth" sy'n cyfrif am y gysefin yma".

Mae'n dweud bod "tros byth" yn digwydd hefyd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cymru am byth

Postiogan cspd » Llun 07 Maw 2011 10:40 pm

Diolch, Sian! Tybed faint o eithriadau sy' 'na i gyd.. :)
cspd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2011 9:59 pm


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron