Nanog a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Duw a ddywedodd:Ydy'r Bwrdd dal yn mynd? O'n i'n meddwl cafodd y bwrdd ei ddiddymu.
Mynd am rhyw flwyddyn arall cyn i'r Comisiynydd Iaith newydd gymryd drosodd. Dim syniad pwy yw hwnna.
Ti'n meddwl fydd hi'n bosib cael Comisiynydd Iaith o Loegr......fel y Comisiynwyr arall?
'Sdim syniad gyda fi. Bues mewn cynhadledd gydag aelodau o'r Bwrdd yn ddiweddar, a doedd dim syniad gyda nhw beth sy'n digwydd yn y dyfodol, ond ei bod yn ymddangos y bydd y Comisiynydd newydd yn cael dirwyo cwmniau am beidio a gweithredu'r ddeddf, ac y bydd llai o bwyslais ar hybu'r Gymraeg (yn eu barn nhw).
Bydde fe'n ddiddorol gwbod barn rhai o aelodau blaenllawn Cymdeithas yr Iaith.