Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan Dewyrth Jo » Llun 21 Maw 2011 7:55 pm

Mae newydd fy nharo i fod enw'r corff hwn yn gyfieithiad slafaidd o'r Saesneg Welsh Language Board. Pam mae angen y gair IAITH yn yr enw? Pam ddim Bwrdd y Gymraeg? Mae angen y gair language yn y Saesneg er mwyn gwahaniaethu rhwng Cymraeg a Chymreig ond nid yn y Gymraeg. Os yw Bwrdd y Gymraeg yn arwain drwy esiampl oes unrhyw ryfedd fod cyfieithiadau mor wamal yn beth mor gyffredin?
Dewyrth Jo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 290
Ymunwyd: Iau 15 Gor 2004 10:11 am

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan CYFRYNGWR 1 » Llun 21 Maw 2011 8:13 pm

Dwi'n meddwl fod hwn yn "pathetic' - beth yw'r ots ?

Os unrhywun arall yn becso ?
CYFRYNGWR 1
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Maw 19 Hyd 2010 9:54 am

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan Cilan » Llun 21 Maw 2011 9:28 pm

Tybed beth yw barn Cymdeithas y(r Iaith) Gymraeg am hyn? :?
Cilan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Sul 03 Meh 2007 4:33 pm

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan Pendra Mwnagl » Llun 21 Maw 2011 10:29 pm

Swyddfa "Comisiynydd y Gymraeg" fydd yn cael ei sefydlu ar ôl i'r Bwrdd gael ei ddiddymu. Dyna ddywed Mesur y Gymraeg!
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan Macsen » Llun 21 Maw 2011 11:40 pm

Ar Twitter maen nhw wedi talfyrru yr enw hyd yn oed ymhellach i 'Y Bwrdd'. Dwnim a ydi hynny'n plesio.

Mae 'arwain drwy esiampl' yn fy nharo i fel cyfieithiad o'r Saesneg. A 'fy nharo'... Dw i am roi lan. Rhoi'r ffidil yn y to, hynny yw. :ing:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan jammyjames60 » Mer 23 Maw 2011 6:54 pm

'Dwi'm yn cerio.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 24 Maw 2011 10:11 am

A propos y gwyn wreiddiol, er ei bod hi'n de rigueur i rai ymateb yn Baflofaidd ar faterion iaith - mai hi bron yn sine qua non fod rhywun, rhywle yng Nghymru yn cwyno am rywbeth (agwedd slafaidd, difeddwl sydd braidd yn passe, IMNSHO) - mae na elfen o schadenfreude fan hyn, gan fod y peth a gwynir amdano ddim hyd yn oed yn anghywir yn ramadegol yn Gymraeg (e.g. mae hi'r un mor gywir i ddweud "Mae Cyngor Ynys Mon yn shit" a "Mae'r cyngor yn shit", etc)

A wel, c'est la vie.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan Duw » Sad 26 Maw 2011 10:00 pm

Ydy'r Bwrdd dal yn mynd? O'n i'n meddwl cafodd y bwrdd ei ddiddymu.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan ceribethlem » Sul 27 Maw 2011 7:03 pm

Duw a ddywedodd:Ydy'r Bwrdd dal yn mynd? O'n i'n meddwl cafodd y bwrdd ei ddiddymu.

Mynd am rhyw flwyddyn arall cyn i'r Comisiynydd Iaith newydd gymryd drosodd. Dim syniad pwy yw hwnna.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg - cyfieithiad slafaidd

Postiogan Nanog » Sul 27 Maw 2011 8:01 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Ydy'r Bwrdd dal yn mynd? O'n i'n meddwl cafodd y bwrdd ei ddiddymu.

Mynd am rhyw flwyddyn arall cyn i'r Comisiynydd Iaith newydd gymryd drosodd. Dim syniad pwy yw hwnna.


Ti'n meddwl fydd hi'n bosib cael Comisiynydd Iaith o Loegr......fel y Comisiynwyr arall? :ofn:
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron