Tudalen 1 o 1

Hwn neu Hon?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Ebr 2011 12:04 pm
gan Lewys120
Hello pawb,
Gall rhywun plis esbonio y gwahaniaeth rhwng Hwn a Hon a rhoi enghreifftiau o ble defnyddiwyd.
Diolch yn fawr :)

Re: Hwn neu Hon?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Ebr 2011 3:22 pm
gan Nei
Os yw gair yn wrywaidd, cyfeirir at y gwrthrych fel 'hwn'. Os yw'n fenywaidd defnyddir 'hon'.

E.e. Mae'r dyn hwn yn hen

Mae'r ddynes hon yn ifanc

Mae'r bwrdd hwn yn fregus

Mae'r goeden hon yn fawr.

Re: Hwn neu Hon?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Ebr 2011 3:42 pm
gan Lewys120
Iawn diolch.
Os undrhyw fordd o gwbod os mae gair yn gwr/benywaidd?

Diolch yn fawr :)

Re: Hwn neu Hon?

PostioPostiwyd: Gwe 22 Ebr 2011 3:48 pm
gan osian
Lewys120 a ddywedodd:Os undrhyw fordd o gwbod os mae gair yn gwr/benywaidd?

Ah, dyna lle mai'n mynd yn anodd! Dwi'n gwbod fod coeden yn hon a pren yn hwn, ond sgeni'm syniad pam!

Ma'na rei patryma' sy'n gneud hi'n haws, ond nai adael i rywun arall esbonio hynny (anwybodaeth, nid diogrwydd)

Re: Hwn neu Hon?

PostioPostiwyd: Sad 23 Ebr 2011 8:30 am
gan Seonaidh/Sioni
Wel 'na fo ynte Osian. Mae plentyn Cymraeg yn cael magu efo'r wybodaeth hon gan mai popeth naill ai gwrywaidd neu fenywaidd. Ond i'r plentyn Saesneg does na ddim lot o wryrwaidd neu fenywaidd - mae bron popeth yn ddiryw, yn "it". Felly mae'n anodd i'r dysgwr addasu a ffyrdd y Gymraeg (haws, efallai, os bydd o/i yn gyfarwydd a'r Ffrangeg neu'r Sbaeneg lle mae pethau tebyg yn bodoli). Mae "rheolau" ann - ond, yn union fel "rheolau" sillafu Saesneg, mae eithriadau'n rhonc. Fel arfer, bydd enw -aeth yn fenywaidd, enw -yn yn wrywaidd, enw -en yn fenywaidd ac ati. Ble mae Sian am well eglurhad?

Re: Hwn neu Hon?

PostioPostiwyd: Sad 23 Ebr 2011 9:06 am
gan Nei
Oes mae yna derfyniadau ar eiriau sy'n gallu dnodi a yw'n wrywaidd neu'n fenywaidd.

Fe rheol mae geiriau gorffen gyda 'en' yn fenywaidd - ag eithrio ambell air fel 'pren' sy'n wrywaidd.

Terfyniadau benywaidd eraill: 'aeth', 'es', 'ed'


Os ydy geiriau yn gorffen gyda 'yn', 'ad', 'wr', 'wch'

Ond wrth gwrs mae eithriadau i bob rheol, mate ro wybod beth yw'r eithriadau yw hynny.

Mae modd gwybod a yw gair yn wrywaidd neun fenywaidd o ddenfyddio'r treigladau, rhyw fat ho waith ditectif ieithyddol os mynnwch. Er enghraifft, mae enwau benywaidd unigol yn achosi treiglad yn yr ansoddair sy'n dilyn, dydy geiriau gwrywaidd ddim.

e.e. 'Y goeden fawr', felly gwelir fod y goeden yn fenywaidd am fod y gair mawr wedi ei dreiglo.

Er mwyn gallu denfyddio'r system hon rhaid gwybod rheolau'r treigladau wrth gwrs.