Galw am bapur dyddiol Cymraeg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Galw am bapur dyddiol Cymraeg

Postiogan Ben Alun » Sul 05 Meh 2011 12:24 pm

Gan ein bod ni gyd yn gwpod, ma'r niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn ymddangos i gynyddu bob deng mlynedd. Wedi bod yn 'steddfod yr urdd yn Abertawe yr wythnos hon gweles i pa mor boblogaidd a bywiog yw'r byd Cymraeg. Wedi gweud hynny, does dim gan y Cymry Cymraeg eu papur Cymraeg dyddiol eu hunain, heblaw'r un wythnosol sef Y Cymro a chylgronau fel Golwg. Wedi gwneud tipyn bach o ymchwil ar y we, roedd y Byd wedi cael 750 o danysgrifwyr, oedd yn nifer isel iawn. Dwi'n methu credu taw 750 oedd y wir ymatebiad i bapur dyddiol cenedlaethol Cymraeg, tair blynedd ymlaen sut ydyn nhw'n gwybod na fydd y ffigur yn fwy? Yn bersonol, dwi'n meddwl fod gofyn i bobol danysgrifo yn wirion, does gen i'r arian yp ffrynt fel na i dalu am y papur am flwyddyn a dyna pam na lwyddon nhw i werthu e yn fy marn i yn ogystal a'r ffaith yr oedd yna drafferth yn cael y papur ar ei draed. Pe basen nhw'n gwneud be mae cwmniau cyfryngol eraill yn ei wneud gan gwerthu nhw mewn siopau yn yr ardaloedd Cymraeg a caniatau i bobl eraill yng Nghymru brynu papur trwy eu hasiant newyddion, a thalu'r asiant newyddion bob wythnos fel mae fy mam-gu a thad-cu yn gwneud, basai pobl yn gallu fforddio prynu'r papur. Mae Cymry Cymraeg sydd ddim yn byw mewn ardal Gymraeg ar wasgar ledled y wlad, ond dydy hyn ddim yn golygu na fasen nhw o blaid papur Cymraeg, rwy'n gwybod llwyth o bobl fase'n fodlon i'w brynu. Dyna pam dw i ddim yn prynu Golwg, achos does gen i ddim 60 punt am flwyddyn. Mae'n rhaid i ni i gyd ddechrau mynnu bod y Gymraeg yn cael y sylw ei bod hi'n haeddu yn y byd cyfryngol, mae'r Saeson am dorri cyllideb S4C fe y mae hi. Gofyn amdano sydd angen gwneud, os ydyn ni'n fodlon talu, mi werthan nhw fe.
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Re: Galw am bapur dyddiol Cymraeg

Postiogan sian » Sul 05 Meh 2011 6:34 pm

Ben Alun a ddywedodd:Pe basen nhw'n gwneud be mae cwmniau cyfryngol eraill yn ei wneud gan gwerthu nhw mewn siopau yn yr ardaloedd Cymraeg a caniatau i bobl eraill yng Nghymru brynu papur trwy eu hasiant newyddion, a thalu'r asiant newyddion bob wythnos fel mae fy mam-gu a thad-cu yn gwneud, basai pobl yn gallu fforddio prynu'r papur. Mae Cymry Cymraeg sydd ddim yn byw mewn ardal Gymraeg ar wasgar ledled y wlad, ond dydy hyn ddim yn golygu na fasen nhw o blaid papur Cymraeg, rwy'n gwybod llwyth o bobl fase'n fodlon i'w brynu. Dyna pam dw i ddim yn prynu Golwg, achos does gen i ddim 60 punt am flwyddyn.


Pwynt diddorol. Felly, os nad ydych chi'n byw mewn ardal Gymraeg / o fewn cyrraedd i siop Gymraeg, yr unig ffordd o gael Golwg, Barn etc yw talu am flwyddyn gyfan? Does bosib. Rŷn ni'n cael Golwg ar ordor yn siop y pentre. Does dim posib gwneud hynny mewn ardaloedd di-Gymraeg?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Galw am bapur dyddiol Cymraeg

Postiogan Ben Alun » Llun 06 Meh 2011 1:48 am

Mae'n bosib y gallwn i ofyn i fy asiant newyddion i archebu fe i fi, ond lle dw i'n byw mae'r Cymry Cymraeg yn wasgaredig. Mae'n ymddangos bod rhaid i fi dalu am flwyddyn i gael Golwg ne Barn, ond siarada i a fy asiant newyddion. Ta waith, rydyn ni angen papur cymraeg dyddiol, mae digon o siaradwyr Cymraeg y dyddiau 'ma, be ti'n meddwl!?
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Re: Galw am bapur dyddiol Cymraeg

Postiogan Josgin » Llun 06 Meh 2011 7:07 pm

Gofyn i Rhodri Glyn Tomos ac Adam Price - y ddau yma wnaeth ladd y syniad , a wedyn diflannu o'r 'front line' .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Galw am bapur dyddiol Cymraeg

Postiogan Barry » Llun 06 Meh 2011 7:49 pm

Rwy'n cael Golwg bob wythnos o'r siop bapurau lleol yma ym Mhontllanfraith. Doedd dim angen tanysgrifio am flwyddyn, dim ond ei archebu fel pob cylchgrawn neu bapur newydd arall.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai