gan Ben Alun » Sul 05 Meh 2011 12:24 pm
Gan ein bod ni gyd yn gwpod, ma'r niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn ymddangos i gynyddu bob deng mlynedd. Wedi bod yn 'steddfod yr urdd yn Abertawe yr wythnos hon gweles i pa mor boblogaidd a bywiog yw'r byd Cymraeg. Wedi gweud hynny, does dim gan y Cymry Cymraeg eu papur Cymraeg dyddiol eu hunain, heblaw'r un wythnosol sef Y Cymro a chylgronau fel Golwg. Wedi gwneud tipyn bach o ymchwil ar y we, roedd y Byd wedi cael 750 o danysgrifwyr, oedd yn nifer isel iawn. Dwi'n methu credu taw 750 oedd y wir ymatebiad i bapur dyddiol cenedlaethol Cymraeg, tair blynedd ymlaen sut ydyn nhw'n gwybod na fydd y ffigur yn fwy? Yn bersonol, dwi'n meddwl fod gofyn i bobol danysgrifo yn wirion, does gen i'r arian yp ffrynt fel na i dalu am y papur am flwyddyn a dyna pam na lwyddon nhw i werthu e yn fy marn i yn ogystal a'r ffaith yr oedd yna drafferth yn cael y papur ar ei draed. Pe basen nhw'n gwneud be mae cwmniau cyfryngol eraill yn ei wneud gan gwerthu nhw mewn siopau yn yr ardaloedd Cymraeg a caniatau i bobl eraill yng Nghymru brynu papur trwy eu hasiant newyddion, a thalu'r asiant newyddion bob wythnos fel mae fy mam-gu a thad-cu yn gwneud, basai pobl yn gallu fforddio prynu'r papur. Mae Cymry Cymraeg sydd ddim yn byw mewn ardal Gymraeg ar wasgar ledled y wlad, ond dydy hyn ddim yn golygu na fasen nhw o blaid papur Cymraeg, rwy'n gwybod llwyth o bobl fase'n fodlon i'w brynu. Dyna pam dw i ddim yn prynu Golwg, achos does gen i ddim 60 punt am flwyddyn. Mae'n rhaid i ni i gyd ddechrau mynnu bod y Gymraeg yn cael y sylw ei bod hi'n haeddu yn y byd cyfryngol, mae'r Saeson am dorri cyllideb S4C fe y mae hi. Gofyn amdano sydd angen gwneud, os ydyn ni'n fodlon talu, mi werthan nhw fe.