Tudalen 1 o 1

Awgrymiadau am Geiriadur?

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 5:48 pm
gan Iestyn
Helo pawb,

Mi dwi'n chwilio am Geiriadur go dda sy'n cyfieithu Cymraeg i Saesneg. Yr un dwi'n gyfarwydd ag ydi'r 'Geiriadur Mawr' - ond fel mae'r adolygiadau sydd ar Amazon yn dweud - tydi'r geiriadur yma heb gael i'w ddiweddaru ers y flwyddyn 1968!

Felly, oes gan rhiwyn unrhiw awgrymiadau tuag at Geiridaur eithaf ddiweddar, da, sydd yn cynnwys llawer o eiriau - tebyg i'r 'Geiriadur Mawr'?

Diolch!

Re: Awgrymiadau am Geiriadur?

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 6:55 pm
gan Nei
Beth am eiriadur swmpus prifysgol cymru?

Re: Awgrymiadau am Geiriadur?

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 7:52 pm
gan obi wan
Tria Eiriadur ardderchog Gomer i'r Plant. Anghofia'r "plant", mae digon yn hwn ar gyfer pob oed. Ac edrycha be ddaw i fyny dan D.Geraint Lewis, awdur nifer o eiriaduron defnyddiol dros ben.