Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan tachwedd5 » Mer 15 Meh 2011 5:20 pm

Shwmae,

Rwy'n ceisio enwi ffolder yn y Gymraeg, o'r Saesneg, sef "Saved". Beth yw'r enw cywir i'w ddefnyddio; Achubwyd neu wedi'u hachub (ar gyfer dogfennau ac e-byst)


Diolch o flaen llaw,
Geraint.
Mae pethau bach yn poeni pawb.
tachwedd5
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2008 9:59 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan osian » Mer 15 Meh 2011 7:50 pm

Arbedwyd?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan ceribethlem » Iau 16 Meh 2011 7:17 am

osian a ddywedodd:Arbedwyd?

Arbedwyd yn swno'n well nac achubwyd i fi.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan sian » Iau 16 Meh 2011 8:06 am

"Cadw" mae TermCymru a'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Dermau yn ei roi am "save" ym maes TGCh.

Ond dwi'n gwybod bod rhai pobl yn defnyddio "Arbed" hefyd.

Beth sy ar Windows Cymraeg? (Mac sy gen i)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan geraintj » Iau 16 Meh 2011 8:48 am

Cadw ydi o yn Office hefyd.
geraintj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Iau 09 Hyd 2008 10:18 pm

Re: Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 16 Meh 2011 5:21 pm

Aye, Cadw
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan Mackem » Gwe 17 Meh 2011 8:28 pm

tachwedd5 a ddywedodd:Shwmae,

Rwy'n ceisio enwi ffolder yn y Gymraeg, o'r Saesneg, sef "Saved". Beth yw'r enw cywir i'w ddefnyddio; Achubwyd neu wedi'u hachub (ar gyfer dogfennau ac e-byst)


Diolch o flaen llaw,
Geraint.


...dw i newydd gael cipolwg drwy strwythur ffolder 'y nghyfrifiadur (dw i'n defnyddio system gweithredu Windows yn Gymraeg) a mae'n ymddangos taw 'Wedi'u Cadw' yw'r enw cywir yn ol Microsoft (e.e. mae 'na ffolder 'da fi o'r enw 'Gemau Wedi'u Cadw' - 'Saved Games').
Mackem
Swydd Gaerloyw
Mackem
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Llun 30 Mai 2011 1:56 pm
Lleoliad: Brockworth, Swydd Gaerloyw

Re: Ceisio enwi ffolder dogfen "Saved" yn y Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Sul 24 Gor 2011 1:09 am

"Cadw" am yr hyn sydd ar label cyn gwneud y peth. Ffurf ar "wedi cadw" byddwn yn ei ddefnyddio; i ddweud rhywbeth fel "saved games" drwy ddefnyddio 'cadwyd,' mae'n rhaid dweud "Gemau a Gadwyd," sy ddim yn swnio'n gywir imi = 'gemau sydd wedi cael eu cadw' mae'r frawddeg yn ei golygu yn y ffurf honno...

"Gemau Wedi'u Cadw," "Ffolder Wedi'i Gadw," "Gêm Wedi'i Chadw" (yn dibynnu ar genedl y gair) amdani! :D
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai