Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati
Cymedrolwr: Gwen
gan -Orion yr Heliwr- » Gwe 15 Gor 2011 3:40 pm
Daethwn neu daethais sy'n gywir?
-
-Orion yr Heliwr-
- Defnyddiwr Efydd
-
- Negeseuon: 274
- Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
- Lleoliad: Cricieth
gan sian » Gwe 15 Gor 2011 7:54 pm
Dibynnu be ti'n feddwl.
"Daethwn" = roeddwn i wedi dod (gorberffaith);
Dychymygwn glywed sŵn traed yn cerdded yn gyflym ar hyd y llwybr y daethwn i ar hyd-ddo.
Roeddwn i'n dychmygu clywed sŵn traed yn cerdded yn gyflym ar hyd y llwybr yr oeddwn i wedi dod ar ei hyd.
"Deuthum" mewn Cymraeg ffurfiol = wnes i ddod, ddaru mi ddod
"Deuthum i fyw i'r tŷ hwn ym 1912"
Mwy anffurfiol:
"Ddes i i fyw yma yn 1912" neu "Ddois i i'r dre ar y bws ond dwi'n cael mynd adre efo Huw"
Dwi'm yn meddwl bod "ddaethais" yn iawn ond mae rhai pobl yn y de'n dweud "ddethes" - plant pan o'n i'n fach, dwi'm yn gwybod ydyn nhw'n dal i wneud.
-
sian
- Gweinyddwr
-
- Negeseuon: 3413
- Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
- Lleoliad: trefor
-
Dychwelyd i Defnydd yr Iaith
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai