Tudalen 1 o 1

Daethwn neu daethais sy'n gywir?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Gor 2011 3:40 pm
gan -Orion yr Heliwr-
Daethwn neu daethais sy'n gywir?

Re: Daethwn neu daethais sy'n gywir?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Gor 2011 7:54 pm
gan sian
Dibynnu be ti'n feddwl.

"Daethwn" = roeddwn i wedi dod (gorberffaith);
Dychymygwn glywed sŵn traed yn cerdded yn gyflym ar hyd y llwybr y daethwn i ar hyd-ddo.
Roeddwn i'n dychmygu clywed sŵn traed yn cerdded yn gyflym ar hyd y llwybr yr oeddwn i wedi dod ar ei hyd.

"Deuthum" mewn Cymraeg ffurfiol = wnes i ddod, ddaru mi ddod
"Deuthum i fyw i'r tŷ hwn ym 1912"
Mwy anffurfiol:
"Ddes i i fyw yma yn 1912" neu "Ddois i i'r dre ar y bws ond dwi'n cael mynd adre efo Huw"

Dwi'm yn meddwl bod "ddaethais" yn iawn ond mae rhai pobl yn y de'n dweud "ddethes" - plant pan o'n i'n fach, dwi'm yn gwybod ydyn nhw'n dal i wneud.