Tudalen 1 o 1

Sat Nava yn Gymraeg.

PostioPostiwyd: Mer 20 Gor 2011 9:11 am
gan Nia Eleri
Heloo!
O's modd i unrhyw un allu ffindo mas i fi os mae Sat Nav sy'n siarad yn Gymraeg yn boboli os gwelwch yn dda? :)

Diolch,
Nia Eleri.

Re: Sat Nava yn Gymraeg.

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2011 1:02 am
gan xxglennxx
Shwmae!

Mae gen i TomTom sy'n siarad Cymraeg - mae modd lawrlwytho lleisiau o wefan TomTom. Dwi wedi eu he-bostio nhw i ofyn os oes pecyn iaith ganddyn nhw, ond dywedon nad oes cynlluniau ar y gweill i greu yn yn y Gymraeg.

Dwi ddim yn siŵr os rydych yn gallu cyfieithu'r peth eich hun, ychwaith.

Oes sat nav hollol Cymraeg gennych chi, 'de?

Re: Sat Nava yn Gymraeg.

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2011 9:58 am
gan Nia Eleri
Diolch o galon am eich help.
Na, does dim Sat Nav yn Gymraeg gen i, does dim Sat Nav o gwbl gyda fi a dweud y gwir. Haha! Ond fi yng nghanol prosiect sy'n mynd i ychwanegu'r iaith Gymraeg i bob ffon symudol. Oherwydd nid yw'r bodoli o gwbl. Os ewch chi ar unrhyw ffon ac edrych am yr ieithoedd, mae sawl iaith gwahanol ond byth y Gymraeg, felly fi'n trial newid hyn!
Ar ol y prosiect yma, o'n i'n gobeithio creu Sat Nav yn Gymraeg os nad oedd un yn barod... Felly diolch am eich help, bydd rhaid i fi ymchwilio'n bellach mewn i'r peth.

Nia Eleri.

Re: Sat Nava yn Gymraeg.

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2011 7:45 pm
gan xxglennxx
O, iawn, haha. Mae'r Samsung S5600 ar gael yn y Gymraeg, t'mod. Wedi dweud hynny, roeddwn mewn dau farn o newid yr iaith yn ôl i'r Saesneg, oherwydd bod safon yr iaith yn wael iawn. Mewn cwbl o lefydd, doedd y Gymraeg yn ymddangos o gwbl! Mae'r prosiect yn swnio'n un diddorol, ond dwi'n meddwl y bydd angen canolbwyntio ar gwmni penodol, megis Samsung, gan fod llawer o ddewis a chan fod pob cwmni ffôn symudol yn wahanol, felly mae'r dewislenni a phob dim arall yn wahanol...

Ble wyt ti'n gwneud y gwaith/ymchwil, Nia?