Tudalen 1 o 1

Treiglo'n feddal ar ôl yn i "meddwl" gydag enw'n ei ddilyn e

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2011 1:17 am
gan xxglennxx
Helo, bawb,

Sut mae? Iawn 'te, a allwch chi egluro imi pam rydym yn dweud, ac yn ysgrifennu, "Beth wyt ti'n feddwl o gerddoriaeth roc?" Rydym yn ei haddysgu mewn Cymraeg ail iaith.

Os ydyn ni'n rhoi pob elfen yn y frawddeg, dyma'r hyn a gawn: "Beth wyt ti'n ei feddwl e o gerddoriaeth roc?" Nawr, imi, oherwydd bod enw(au) gennym, sef "cerddoriaeth (roc)," nid oes angen y treiglad meddal gan fod y "meddwl" yn cyfeirio at y gerddoriaeth, ac nid at "ei" ('it' fel arfer yn Saesneg).

Mae'n fel dweud, "What do you think it of rock music?" yn y Saesneg.

Dwi wedi siarad â'm mentoriaid yn y Brifysgol, ac maen nhw wedi dweud bo fi sy'n gywir, ond "dydy iaith ddim yn dirywio, ond yn datblygu." Grrr. Ai dyma'r ffurf a ddefnyddir bellach? Ac os ydyw, pa eithriadau i'r rheolau sydd yna hefyd?

Felly, yn y bôn, p'un sy'n gywir(ach!)? "Beth wyt ti'n feddwl o..." neu "Beth wyt ti'n meddwl o..."?

Diolch ichi.

Re: Treiglo'n feddal ar ôl yn i "meddwl" gydag enw'n ei ddil

PostioPostiwyd: Gwe 29 Gor 2011 8:25 am
gan Gwen
Ti'n cysylltu 'meddwl' a 'cherddoriaeth', ond nid hynny sy'n esbonio'r frawddeg. Rhwng 'beth' ac 'ei' mae'r cysylltiad. Felly nid "What do you think it of rock music?" ond "What is it that you think of rock music?"

Dwi'n meddwl!

Felly yr hyn sydd hefyd yn swnio'n fwya naturiol sy'n fwya cywir: "Beth [wyt] ti'n feddwl...?" Felly hefyd "Beth [wyt] ti'n ddweud?" ayyb. Byddai "Hyn dwi'n feddwl o..." yn dilyn yr un patrwm. OND "Pam ti'n meddwl hynny?" - does dim 'ei' yno yn y lle cynta i fod wedi achosi treiglad.

Re: Treiglo'n feddal ar ôl yn i "meddwl" gydag enw'n ei ddil

PostioPostiwyd: Gwe 29 Gor 2011 11:56 am
gan Hazel
Oh diolch, Gwen! Rwy' wedi moyn gwybod hynny ers hydoedd.

Re: Treiglo'n feddal ar ôl yn i "meddwl" gydag enw'n ei ddil

PostioPostiwyd: Sul 31 Gor 2011 6:26 pm
gan Duw
Wel, os o't ti'n dod o Fry'man byddet ti ddim wedi treiglo'n y lle cynta. :)

Be ti'n meddwl... (pob tro)

Sori dwi'n gwbod dyw hwnna ddim yn ychwanegu at y drafodaeth. Bygo mas ....

Re: Treiglo'n feddal ar ôl yn i "meddwl" gydag enw'n ei ddil

PostioPostiwyd: Maw 06 Tach 2012 7:11 am
gan peter9091
Oh diolch, Gwen! Rwy' wedi moyn gwybod hynny ers hydoedd.