Helo, bawb,
Sut mae? Iawn 'te, a allwch chi egluro imi pam rydym yn dweud, ac yn ysgrifennu, "Beth wyt ti'n feddwl o gerddoriaeth roc?" Rydym yn ei haddysgu mewn Cymraeg ail iaith.
Os ydyn ni'n rhoi pob elfen yn y frawddeg, dyma'r hyn a gawn: "Beth wyt ti'n ei feddwl e o gerddoriaeth roc?" Nawr, imi, oherwydd bod enw(au) gennym, sef "cerddoriaeth (roc)," nid oes angen y treiglad meddal gan fod y "meddwl" yn cyfeirio at y gerddoriaeth, ac nid at "ei" ('it' fel arfer yn Saesneg).
Mae'n fel dweud, "What do you think it of rock music?" yn y Saesneg.
Dwi wedi siarad â'm mentoriaid yn y Brifysgol, ac maen nhw wedi dweud bo fi sy'n gywir, ond "dydy iaith ddim yn dirywio, ond yn datblygu." Grrr. Ai dyma'r ffurf a ddefnyddir bellach? Ac os ydyw, pa eithriadau i'r rheolau sydd yna hefyd?
Felly, yn y bôn, p'un sy'n gywir(ach!)? "Beth wyt ti'n feddwl o..." neu "Beth wyt ti'n meddwl o..."?
Diolch ichi.