Tudalen 1 o 1

Y bysellfwrdd yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2011 1:36 pm
gan Dafydd ab Iago
Helo,

Cwestiwn twp ond beth ydy'r gair Cymraeg am ENTER ac ALT?

Yr unig gair Cymraeg rwy'n gallu meddwl amdano yw 'bwlchwr' am 'space'

A beth am CTRL?

Diolch.

Dafydd

Re: Y bysellfwrdd yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2011 8:18 pm
gan xxglennxx
Mae pawb erbyn hyn yn dweud "Enter" a "control" (Ctrl), gan fod dim bysellfwrdd Cymraeg yn bodoli.

Ond, os wyt ti am Gymreigio'r peth (cer amdani!), mae "Enter" yn "dychwelwr" neu "allwedd ddychwelyd," a "Control" ydy "bysell reoli" neu "allwedd reoli."

Gobeithio bod hyn o gymorth iti.