Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan garik » Maw 11 Hyd 2011 7:57 pm

Pa air neu eiriau Cymraeg dach chi'n defnyddio ar gyfer "yawn"?

Dwi ddim yn gofyn, gyda llaw, am be mae'r geiriadur yn ei deud. Gofyn ydw i am be dach chi'n deud mewn sgwrs o ddydd i ddydd. Sut, er enghraifft, y byddech chi'n deud "I must be tired -- I'm starting to yawn" yn y Gymraeg? Dychmygwch eich bod chi'n siarad i gyfaill neu aelod o'ch teulu.

Mi dybiwn i fydd rhywfaint o amrywiaeth yn eich atebion.
Rhithffurf defnyddiwr
garik
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sad 10 Rhag 2005 7:40 pm
Lleoliad: Efrog Newydd

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan Gwen » Maw 11 Hyd 2011 8:21 pm

"Agor 'y ngheg".
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan Doctor Sanchez » Maw 11 Hyd 2011 8:48 pm

'Dylyfu gen' ydi'r term Cymraeg cywir am 'yawn'. Swn i byth yn deud hynny chwaith.
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan garik » Maw 11 Hyd 2011 9:12 pm

Doctor Sanchez a ddywedodd:'Dylyfu gen' ydi'r term Cymraeg cywir am 'yawn'. Swn i byth yn deud hynny chwaith.

Be sach chi'n deud te?
Rhithffurf defnyddiwr
garik
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sad 10 Rhag 2005 7:40 pm
Lleoliad: Efrog Newydd

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan Gwen » Maw 11 Hyd 2011 9:16 pm

Dwi'm yn meddwl y bysa fawr o neb yn deud dylyfu gen yn naturiol.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan garik » Maw 11 Hyd 2011 9:42 pm

Awgrymiadau eraill (o eiriadur Coleg y Drindod):
  • ystwyrian
  • cegrythu
  • gapo
Oes rhywun yma sa'n defnyddio un o rheini o ddydd i ddydd?
Rhithffurf defnyddiwr
garik
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sad 10 Rhag 2005 7:40 pm
Lleoliad: Efrog Newydd

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan JVD33 » Maw 11 Hyd 2011 10:08 pm

"lyfu gên" dwi'n dweud...a dwi'n siŵr bod rhai pobl wedi ail-ddadansoddi hyn fel "llyfu gên".
JVD33
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 16 Rhag 2009 12:38 pm
Lleoliad: Abertawe

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan Josgin » Maw 11 Hyd 2011 10:21 pm

'Hepian' fydd y plant yn fy ngwersi i.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan sian » Maw 11 Hyd 2011 10:54 pm

Agor 'y ngheg fydda i.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

Postiogan bartiddu » Maw 11 Hyd 2011 11:31 pm

Ti bown o fod wedi blino, wyt ti'n "agor dy ben" ychan.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron