Tudalen 1 o 2

Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 7:57 pm
gan garik
Pa air neu eiriau Cymraeg dach chi'n defnyddio ar gyfer "yawn"?

Dwi ddim yn gofyn, gyda llaw, am be mae'r geiriadur yn ei deud. Gofyn ydw i am be dach chi'n deud mewn sgwrs o ddydd i ddydd. Sut, er enghraifft, y byddech chi'n deud "I must be tired -- I'm starting to yawn" yn y Gymraeg? Dychmygwch eich bod chi'n siarad i gyfaill neu aelod o'ch teulu.

Mi dybiwn i fydd rhywfaint o amrywiaeth yn eich atebion.

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 8:21 pm
gan Gwen
"Agor 'y ngheg".

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 8:48 pm
gan Doctor Sanchez
'Dylyfu gen' ydi'r term Cymraeg cywir am 'yawn'. Swn i byth yn deud hynny chwaith.

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 9:12 pm
gan garik
Doctor Sanchez a ddywedodd:'Dylyfu gen' ydi'r term Cymraeg cywir am 'yawn'. Swn i byth yn deud hynny chwaith.

Be sach chi'n deud te?

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 9:16 pm
gan Gwen
Dwi'm yn meddwl y bysa fawr o neb yn deud dylyfu gen yn naturiol.

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 9:42 pm
gan garik
Awgrymiadau eraill (o eiriadur Coleg y Drindod):
  • ystwyrian
  • cegrythu
  • gapo
Oes rhywun yma sa'n defnyddio un o rheini o ddydd i ddydd?

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 10:08 pm
gan JVD33
"lyfu gên" dwi'n dweud...a dwi'n siŵr bod rhai pobl wedi ail-ddadansoddi hyn fel "llyfu gên".

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 10:21 pm
gan Josgin
'Hepian' fydd y plant yn fy ngwersi i.

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 10:54 pm
gan sian
Agor 'y ngheg fydda i.

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 11:31 pm
gan bartiddu
Ti bown o fod wedi blino, wyt ti'n "agor dy ben" ychan.