Tudalen 2 o 2

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Mer 12 Hyd 2011 12:25 am
gan Hen Rech Flin
Gwen a ddywedodd:Dwi'm yn meddwl y bysa fawr o neb yn deud dylyfu gen yn naturiol.



Rwy'n fawr o neb! (Doedd Nain ddim chwaith)

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Mer 12 Hyd 2011 12:10 pm
gan Doctor Sanchez
garik a ddywedodd:
Doctor Sanchez a ddywedodd:'Dylyfu gen' ydi'r term Cymraeg cywir am 'yawn'. Swn i byth yn deud hynny chwaith.

Be sach chi'n deud te?


Swn i mwya tebyg yn deud "Dwi'n ffwcd. Dwi'n mynd i'n ngwely"

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2011 6:25 pm
gan Siani Flewog
"Yawnan" dwi'n glywed! Fyswn i byth yn dweud hynny ond yn hytrach "agor y' ngheg".

Re: Ymadroddion Cymraeg am "yawn"

PostioPostiwyd: Gwe 07 Chw 2014 12:44 am
gan mariamottola
Rydw i a phawb yn fy nheulu i yn dweud gapo.