Tudalen 1 o 2

Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 26 Tach 2011 11:02 am
gan mynci
Mae ffrind i mi yn gwneud gwaith ymchwil ar ebychiadau mewn gwahanol ieithoedd, ac yn awyddus i gynnwys ebychiadau Cymraeg yn ei gwaith. Oes rhywun yn gwybod am restr o ebychiadau (exclamations, NID idiomau) Cymraeg? Os ddim, allwch chi restru rhai yma i'w chynorthwyo gyda'i gwaith? Diolch mawr.

e.e.
Bobol bach!
Wel, wel!
Taw (a deud)!
Asu ffeta!

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 26 Tach 2011 12:28 pm
gan sian
Hawyr bach!
Bobol bach y Bala!
Brensiach y bratia!
Uffern dân!
Iyffach gols!
Jiw jiw!

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 26 Tach 2011 2:51 pm
gan osian
Shitrwm shatrwm!

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 27 Tach 2011 1:18 am
gan ceribethlem
Jiawcs
Uffach gols

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Sul 27 Tach 2011 8:24 pm
gan Del
Bachan bachan!
Caton pawb!

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2011 10:32 am
gan ceribethlem
Bachan diawl

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 02 Rhag 2011 4:01 pm
gan Kez
Jiawch ariod
Duw a'n helpo
Iesgyn Dafydd
Diws annwl
Shwgir! (wi'n cymeryd bod pobol yn gweud 'shwgir' er mwyn osgoi gweud 'shit', fel man nhw'n gweud 'jiw' neu 'Diws' yn lle 'Duw' - am fod un yn rheg a'r nall yn gableddus sbo)

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 02 Rhag 2011 5:55 pm
gan Josgin
Nefi blw !
Iesgob annwyl !
Duwcs/Duwadd annwyl dad !
(Yn negyddol ) Daria !
(eto ) Fflamia !

Mae dau cyffredin arall amlwg - un yn cableddu , a'r llall yn amrywiaeth o reg Saesneg !

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2011 6:13 am
gan Blewyn
Iaaaasu Goc !

Brensiach y bobol ! (be ffwc ydy 'brensiach'?)

wkin el (dre ia)

Re: Casglu Rhestr o Ebychiadau Cymraeg

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2011 10:02 am
gan Bod
Ar y marw!