Fi'n deall ac n cytuno gyda'r pethau ddywedoch chi, ond rydw i'n mynd yn grac iawn weithiau pan fod pethau'n anodd iawn i'r Gymraeg. Dyw hi ddim yn deg fod rhaid i ni frwydro a gofyn am bopeth, nid ydym yn cael unrhywbeth wedi rhoi i ni ar blat.
Dwi'n hollol gytuno â thi, ac yn gallu dilyn dy resymeg di. Nid yw'r un peth mewn unrhyw wlad arall, felly pam fo Cymru a'r Gymraeg yn wahanol? Wel, ni ddylai fod a dweud y gwir. "Parch" yw'r gair, dwi'n credu; mae cwmnïau yn ei gymryd yn ganiataol fod y Cymry hefyd yn gallu siarad y Saesneg a bod gwell gennym ei siarad hi yn hytrach na'n hiaith ein hunain. Ond mai'r rhyddid o ddewis yw'r hyn nad ydynt yn ei deall gan amlaf - mae hi bron â bod yn gywir fod y Cymry Cymraeg i gyd yn siarad yr iaith fain ac yn gallu ei deall erbyn hyn, ond nid yw hynny'n dweud ein bod yn hapus i ddeilio â'u gwasanaethau drwy gyfrwng y Saesneg; mae'n well gan lawer mwy o Gymry Cymraeg weithredu eu busnes drwy'r Gymraeg.
Pam nad yw'r Gymraeg ar "settings" ffonnau symudol (ym Mhrydain) yn barod?
Yr un rheswm ar gyfer Gaeleg yr Alban, Cernyweg, a Manaweg ydyw - mae iaith leiafrifol ydyw'r Gymraeg a bod "pawb yn siarad Saesneg"...
Mae ychydig o ieithoedd leiafriol ar fy ffon i nawr felly pam ddim y Gymraeg?!
Yn union! Mae statws swyddogol i'r Gymraeg nawr yma yng Nghymru, ac fe'i hadnabyddir gan y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol yn y DU. Mi ddylai'r Gymraeg fod yn ddewis heb ddweud sydd ar gael i Gymry Cymraeg, ond fel rwyt ti'n ddweud, mae'n rhaid inni ofyn amdani bron drwy'r amser.
Rydw i'n teimlo mor frwd dros y Gymraeg ac yn benderfynol i beidio rhoi fyny ar y syniad nes ei bod yn cael ei wireddu neu os bydd wir rhaid i mi. Rydw i'n barod i frwydro dros hyn a sawl peth arall dros y Gymraeg yn y dyfodol. Mae hawl genym ni gael ein hiaith ar ein ffonnau. Ond mae angen i mi gael mwy o bobl i gefnogi fy syniad yn gyntaf...haha! Wedi'r cyfan, dim ond myfyrwraig 19 ml.oed sy'n astudio Cymraeg ydw i, sdim lot o bobl yn mynd i wrando arna i...am nawr tabeth ha.
Weeeel, ynglyn a'r Sat Nav, synaid arall ar ol y Gymraeg ar ffonnau symudol oedd hynny. Gwneud bach o ymchwil cyn mynd a'r peth yn bellach. Mae gen i nifer o syniadau i hybu'r Gymraeg ac ychwanegu'r Gymraeg mewn mwy o bethau, y mwyafrif yn heriol, ond cefnogaeth a chymorth sydd angen arna i yn bennaf cyn gwneud unrhywbeth. Felly rydw i'n dod ar maes-e i weld ymateb pobl eraill i fy syniadau. Cawn weld beth ddaw yn y dyfodol.
Hollol gytuno! Mae angen mwy o bobl fel ti sy'n brwydo dros y Gymraeg. Un peth sy'n siŵr - mae gen ti fy nghefnogaeth i, 100%. Ynglŷn â'r Sat Nav: A iawn, dwi'n deall. Wyt ti wedi cysylltu â'r Bwrdd a'r Llywodraeth i weld a ydyn nhw wedi gweithredu'r fath syniadau yn y dyfodol (gan gynnwys y canlyniadau os gwnaethon nhw)? Beth am weithredu rhyw fath o bôl piniwn ar Facebook ar dudalen Cymdeithas yr Iaith ayyb?