Nia Eleri a ddywedodd:Helooo! Fi nol nawr. Ac ma' cwestiwn itha pwysig gyda fi...:
Allan o ddiddordeb, petai modd cael yr iaith Gymraeg yn bodoli ar ffonnau symudol fel un o'r ieithoedd ar "settings" y ffon, faint ohonoch chi byddai'n dewis newid yr iaith i Gymraeg? Mae gen i syniad a chynllun ac rydw i'n bwriadu gwneud rhyw fath o "survey" er mwyn profi fod y syniad yn gallu troi'n realiti.
Felly plis atebwch yn onest a meddyliwch beth fyddai'ch ffrindiau chi'n dewis hefyd..
Diooolch,
Nia Eleri.
Mae dy bost di, Eleri, yn dangos diffyg hysbysrwydd o ran Bwrdd yr Iaith/asiantaethau Cymraeg/Mentrau Iaith/cwmni ffôn Samsung/Orange, oherwydd BOD ffôn Cymraeg ar gael yn barod; cyhoeddwyd Samsung ym mis Awst 2009 wedi cyhoeddi ei fod am ryddhau ffôn Cymraeg, a gwnaethant - bellach mae'r S5600 â'r Gymraeg. Prynais y ffôn y diwrnod cyntaf iddo ddod mas, ond roeddwn yn siomedig gydag ansawdd yr iaith oedd ar y ffôn; roedd yr iaith yn flêr dros ben ac ni rhaglenniwyd fe'n gywir (roedd ambell i ddewislen/botymau yn colli geiriau) - dim ond angen edrych ar y llun yma:
http://img27.yfrog.com/img27/7646/hrx.jpg i weld safon yr iaith (yr iaith
Cymraeg?!). Roedd yr un ffôn ag un o'm ffrindiau yn y Brifysgol, hefyd, yn y Gymraeg, ond o'r deunaw ohonom ar y cwrs, dim ond dwy ohonom oedd â'r ffôn, ac dwi erioed wedi cwrdd â neb arall, hyd yn hyn, sydd â'r ffôn/yn defnyddio'r rhyngwyneb.
Ac eto, mae'n rhaid imi adleisio'r hyn ddywedodd Gwen - dwi erioed wedi cwrdd â neb sy'n defnyddio Windows yn Gymraeg; bu fy fersiwn XP a Vista yn Gymraeg, a bellach mae fy fersiwn 7 yn Gymraeg. Dwi erioed wedi gweld ysgolion Cymraeg (iaith gyntaf neu ail iaith) hyd yn oed yn defnyddio'r rhain. Mae'r un peth yn gywir i fy Facebook - mae popeth yn Gymraeg. Mae Cymry Cymraeg wastad yn dweud nad yw digon o
mewnosod cwmnïau yma - Tesco, Barcleys ayyb yn darparu gwasanaethau Cymraeg, ond pan mae'n dod i lawr i'r peth, ac wedyn mae ar gael, braidd neb sy'n eu defnyddio... Dwi wastad yn defnyddio peiriannau arian/hunan-wasanaethu yn Gymraeg, ac dim ond unwaith dwi wedi clywed/gweld rhywun arall yn eu defnyddio.
Ond, wedi dweud hynny, byddwn i'n fodlon newid y rhyngwyneb tasai fe ar gael yn y Gymraeg. Dim ond angen creu/cyfieithu LIP (Pecyn Rhyngwyneb Iaith) i mewn i'r Gymraeg, ac ei wneud ar gael drwy ddiweddariad, ac wedyn mae ar gael i bawb sydd â'r ffôn hwnnw. Mae iPhone 4 gyda fi ar hyn o bryd, a fydda i ddim yn newid am sbel eto...