Ffonnau symudol yn Gymraeg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan Nia Eleri » Sad 03 Rhag 2011 5:14 pm

Diolch, a fi'n falch mai nid ymateb negyddol ydoedd.
Fi'n deall ac n cytuno gyda'r pethau ddywedoch chi, ond rydw i'n mynd yn grac iawn weithiau pan fod pethau'n anodd iawn i'r Gymraeg. Dyw hi ddim yn deg fod rhaid i ni frwydro a gofyn am bopeth, nid ydym yn cael unrhywbeth wedi rhoi i ni ar blat. Pam nad yw'r Gymraeg ar "settings" ffonnau symudol (ym Mhrydain) yn barod? Mae ychydig o ieithoedd leiafriol ar fy ffon i nawr felly pam ddim y Gymraeg?! Rydw i'n teimlo mor frwd dros y Gymraeg ac yn benderfynol i beidio rhoi fyny ar y syniad nes ei bod yn cael ei wireddu neu os bydd wir rhaid i mi. Rydw i'n barod i frwydro dros hyn a sawl peth arall dros y Gymraeg yn y dyfodol. Mae hawl genym ni gael ein hiaith ar ein ffonnau. Ond mae angen i mi gael mwy o bobl i gefnogi fy syniad yn gyntaf...haha! Wedi'r cyfan, dim ond myfyrwraig 19 ml.oed sy'n astudio Cymraeg ydw i, sdim lot o bobl yn mynd i wrando arna i...am nawr tabeth ha.
Weeeel, ynglyn a'r Sat Nav, synaid arall ar ol y Gymraeg ar ffonnau symudol oedd hynny. Gwneud bach o ymchwil cyn mynd a'r peth yn bellach. Mae gen i nifer o syniadau i hybu'r Gymraeg ac ychwanegu'r Gymraeg mewn mwy o bethau, y mwyafrif yn heriol, ond cefnogaeth a chymorth sydd angen arna i yn bennaf cyn gwneud unrhywbeth. Felly rydw i'n dod ar maes-e i weld ymateb pobl eraill i fy syniadau. Cawn weld beth ddaw yn y dyfodol.
Nia Eleri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 11 Ebr 2011 7:49 pm

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Sul 04 Rhag 2011 5:40 pm

Fi'n deall ac n cytuno gyda'r pethau ddywedoch chi, ond rydw i'n mynd yn grac iawn weithiau pan fod pethau'n anodd iawn i'r Gymraeg. Dyw hi ddim yn deg fod rhaid i ni frwydro a gofyn am bopeth, nid ydym yn cael unrhywbeth wedi rhoi i ni ar blat.


Dwi'n hollol gytuno â thi, ac yn gallu dilyn dy resymeg di. Nid yw'r un peth mewn unrhyw wlad arall, felly pam fo Cymru a'r Gymraeg yn wahanol? Wel, ni ddylai fod a dweud y gwir. "Parch" yw'r gair, dwi'n credu; mae cwmnïau yn ei gymryd yn ganiataol fod y Cymry hefyd yn gallu siarad y Saesneg a bod gwell gennym ei siarad hi yn hytrach na'n hiaith ein hunain. Ond mai'r rhyddid o ddewis yw'r hyn nad ydynt yn ei deall gan amlaf - mae hi bron â bod yn gywir fod y Cymry Cymraeg i gyd yn siarad yr iaith fain ac yn gallu ei deall erbyn hyn, ond nid yw hynny'n dweud ein bod yn hapus i ddeilio â'u gwasanaethau drwy gyfrwng y Saesneg; mae'n well gan lawer mwy o Gymry Cymraeg weithredu eu busnes drwy'r Gymraeg.

Pam nad yw'r Gymraeg ar "settings" ffonnau symudol (ym Mhrydain) yn barod?


Yr un rheswm ar gyfer Gaeleg yr Alban, Cernyweg, a Manaweg ydyw - mae iaith leiafrifol ydyw'r Gymraeg a bod "pawb yn siarad Saesneg"...

Mae ychydig o ieithoedd leiafriol ar fy ffon i nawr felly pam ddim y Gymraeg?!


Yn union! Mae statws swyddogol i'r Gymraeg nawr yma yng Nghymru, ac fe'i hadnabyddir gan y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol yn y DU. Mi ddylai'r Gymraeg fod yn ddewis heb ddweud sydd ar gael i Gymry Cymraeg, ond fel rwyt ti'n ddweud, mae'n rhaid inni ofyn amdani bron drwy'r amser.

Rydw i'n teimlo mor frwd dros y Gymraeg ac yn benderfynol i beidio rhoi fyny ar y syniad nes ei bod yn cael ei wireddu neu os bydd wir rhaid i mi. Rydw i'n barod i frwydro dros hyn a sawl peth arall dros y Gymraeg yn y dyfodol. Mae hawl genym ni gael ein hiaith ar ein ffonnau. Ond mae angen i mi gael mwy o bobl i gefnogi fy syniad yn gyntaf...haha! Wedi'r cyfan, dim ond myfyrwraig 19 ml.oed sy'n astudio Cymraeg ydw i, sdim lot o bobl yn mynd i wrando arna i...am nawr tabeth ha.
Weeeel, ynglyn a'r Sat Nav, synaid arall ar ol y Gymraeg ar ffonnau symudol oedd hynny. Gwneud bach o ymchwil cyn mynd a'r peth yn bellach. Mae gen i nifer o syniadau i hybu'r Gymraeg ac ychwanegu'r Gymraeg mewn mwy o bethau, y mwyafrif yn heriol, ond cefnogaeth a chymorth sydd angen arna i yn bennaf cyn gwneud unrhywbeth. Felly rydw i'n dod ar maes-e i weld ymateb pobl eraill i fy syniadau. Cawn weld beth ddaw yn y dyfodol.


Hollol gytuno! Mae angen mwy o bobl fel ti sy'n brwydo dros y Gymraeg. Un peth sy'n siŵr - mae gen ti fy nghefnogaeth i, 100%. Ynglŷn â'r Sat Nav: A iawn, dwi'n deall. Wyt ti wedi cysylltu â'r Bwrdd a'r Llywodraeth i weld a ydyn nhw wedi gweithredu'r fath syniadau yn y dyfodol (gan gynnwys y canlyniadau os gwnaethon nhw)? Beth am weithredu rhyw fath o bôl piniwn ar Facebook ar dudalen Cymdeithas yr Iaith ayyb?
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan Nia Eleri » Mer 07 Rhag 2011 12:55 pm

Diolch o galon am eich cefnogaeth!
Mi rydw i wedi cysylltu gyda Jeremy Evas sy'n gweithio i ffwrdd yr iaith, a dyma'r ymateb cefais i ddoe...(ar ol tua wythnos o aros haha!)

Annwyl Nia,

Diolch yn fawr am eich llythyr dyddiedig 28 Tachwedd – diddorol iawn. Ymddiheuriadau am oedi cyn ei gydnabod. Nodyn sydyn, felly, i roi gwybod y bydd un o’m cydweithwyr yn dod nôl atoch o fewn y dyddiau nesaf.


Gyda phob dymuniad da a chan ymddiheuro eto am yr oedi

Jeremy Evas

Felly cawn weld beth sydd ganddo i ddweud yn y diwrnodau nesaf. Dydw i ddim wedi trafod y buses Sat Nav eto, felly ymateb ynglyn a'r ffon yn unig yw hon.
Mae tipyn o bobl yn cytuno gyda fy syniadau ond neb yn siwr beth na sut i wneud unrhywbeth...cymorth sydd angen arna i nawr, gan bawb! ha.
Nia Eleri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 11 Ebr 2011 7:49 pm

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron