Ffonnau symudol yn Gymraeg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan Nia Eleri » Llun 28 Tach 2011 7:50 pm

Helooo! Fi nol nawr. Ac ma' cwestiwn itha pwysig gyda fi...:
Allan o ddiddordeb, petai modd cael yr iaith Gymraeg yn bodoli ar ffonnau symudol fel un o'r ieithoedd ar "settings" y ffon, faint ohonoch chi byddai'n dewis newid yr iaith i Gymraeg? Mae gen i syniad a chynllun ac rydw i'n bwriadu gwneud rhyw fath o "survey" er mwyn profi fod y syniad yn gallu troi'n realiti.
Felly plis atebwch yn onest a meddyliwch beth fyddai'ch ffrindiau chi'n dewis hefyd..
Diooolch,
Nia Eleri.
Nia Eleri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 11 Ebr 2011 7:49 pm

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan Gwen » Maw 29 Tach 2011 10:22 am

Mi fyswn i, ond dwi ddim yn meddwl y byddai llawer o fy ffrindiau/pobl dwi'n nabod. Dwi'n synnu cyn lleied sy'n defnyddio rhyngwyneb Cymraeg Windows, er enghraifft - dim ond un y gwn i amdani (yn y cigfyd), heblaw amdana i fy hun! Lot o bobl y byswn i'n disgwyl iddyn nhw fod wedi'i newid o heb wneud - y peth cynta y bydda i'n sylwi arno fo wrth weld 'screenshots'.

Ond pob lwc efo dy syniad!
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Iau 01 Rhag 2011 5:12 pm

Nia Eleri a ddywedodd:Helooo! Fi nol nawr. Ac ma' cwestiwn itha pwysig gyda fi...:
Allan o ddiddordeb, petai modd cael yr iaith Gymraeg yn bodoli ar ffonnau symudol fel un o'r ieithoedd ar "settings" y ffon, faint ohonoch chi byddai'n dewis newid yr iaith i Gymraeg? Mae gen i syniad a chynllun ac rydw i'n bwriadu gwneud rhyw fath o "survey" er mwyn profi fod y syniad yn gallu troi'n realiti.
Felly plis atebwch yn onest a meddyliwch beth fyddai'ch ffrindiau chi'n dewis hefyd..
Diooolch,
Nia Eleri.

Mae dy bost di, Eleri, yn dangos diffyg hysbysrwydd o ran Bwrdd yr Iaith/asiantaethau Cymraeg/Mentrau Iaith/cwmni ffôn Samsung/Orange, oherwydd BOD ffôn Cymraeg ar gael yn barod; cyhoeddwyd Samsung ym mis Awst 2009 wedi cyhoeddi ei fod am ryddhau ffôn Cymraeg, a gwnaethant - bellach mae'r S5600 â'r Gymraeg. Prynais y ffôn y diwrnod cyntaf iddo ddod mas, ond roeddwn yn siomedig gydag ansawdd yr iaith oedd ar y ffôn; roedd yr iaith yn flêr dros ben ac ni rhaglenniwyd fe'n gywir (roedd ambell i ddewislen/botymau yn colli geiriau) - dim ond angen edrych ar y llun yma: http://img27.yfrog.com/img27/7646/hrx.jpg i weld safon yr iaith (yr iaith Cymraeg?!). Roedd yr un ffôn ag un o'm ffrindiau yn y Brifysgol, hefyd, yn y Gymraeg, ond o'r deunaw ohonom ar y cwrs, dim ond dwy ohonom oedd â'r ffôn, ac dwi erioed wedi cwrdd â neb arall, hyd yn hyn, sydd â'r ffôn/yn defnyddio'r rhyngwyneb.

Ac eto, mae'n rhaid imi adleisio'r hyn ddywedodd Gwen - dwi erioed wedi cwrdd â neb sy'n defnyddio Windows yn Gymraeg; bu fy fersiwn XP a Vista yn Gymraeg, a bellach mae fy fersiwn 7 yn Gymraeg. Dwi erioed wedi gweld ysgolion Cymraeg (iaith gyntaf neu ail iaith) hyd yn oed yn defnyddio'r rhain. Mae'r un peth yn gywir i fy Facebook - mae popeth yn Gymraeg. Mae Cymry Cymraeg wastad yn dweud nad yw digon o mewnosod cwmnïau yma - Tesco, Barcleys ayyb yn darparu gwasanaethau Cymraeg, ond pan mae'n dod i lawr i'r peth, ac wedyn mae ar gael, braidd neb sy'n eu defnyddio... Dwi wastad yn defnyddio peiriannau arian/hunan-wasanaethu yn Gymraeg, ac dim ond unwaith dwi wedi clywed/gweld rhywun arall yn eu defnyddio.

Ond, wedi dweud hynny, byddwn i'n fodlon newid y rhyngwyneb tasai fe ar gael yn y Gymraeg. Dim ond angen creu/cyfieithu LIP (Pecyn Rhyngwyneb Iaith) i mewn i'r Gymraeg, ac ei wneud ar gael drwy ddiweddariad, ac wedyn mae ar gael i bawb sydd â'r ffôn hwnnw. Mae iPhone 4 gyda fi ar hyn o bryd, a fydda i ddim yn newid am sbel eto...
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan ceribethlem » Iau 01 Rhag 2011 7:17 pm

xxglennxx a ddywedodd:Mae dy bost di, Eleri, yn dangos diffyg hysbysrwydd o ran Bwrdd yr Iaith/asiantaethau Cymraeg/Mentrau Iaith/cwmni ffôn Samsung/Orange, oherwydd BOD ffôn Cymraeg ar gael yn barod; cyhoeddwyd Samsung ym mis Awst 2009 wedi cyhoeddi ei fod am ryddhau ffôn Cymraeg, a gwnaethant - bellach mae'r S5600 â'r Gymraeg.

Fi ddim yn credu fod hwnna'n hollol deg, fe fu hysbysebu am y ffon yna pan ddaeth hi mas yn wreiddiol. Ond mae ffon o Awst 2009 yn genhedlaeth (os nad dwy, falle tair cenhedlaeth) yn hen bellach.

Bydde fe'n ddiddorol gwybod, Nia Eleri, os mai bwriadu i greu pecyn rhyngwyneb iaith ar gyfer ffon penodol (megis y ffon soniodd xxglennxx amdani), neu rhyngwyneb gellir ei osod ar OS y ffon, er enghraifft pecyn i integreiddio i mewn i system Android.
Os mai pecyn ar gyfer ffon symudol penodol sydd dan sylw yna falle elli di cysylltu a Samsung i weld pa mor boblogaidd oedd y ffon yna.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Gwe 02 Rhag 2011 11:12 am

ceribethlem a ddywedodd:

Efallai nad yw'n hollol deg, ond dyma'r gwir yn y bôn. Mae dim ond 238,000 canlyniad ymchwiliad Google ("Samsung S5600 Welsh"), mewn cymhariaeth â 7,920,000 canlyniad ymchwiliad Google â "Samsung S5600" yn unig. Mae dau ganlyniad yn unig ar gyfer y ffôn ar wefan BYI (http://www.google.co.uk/search?hl=en&sa ... 15l0.1l1l0). Does dim byd ar gyfer yr ymchwiliad a gwefan Mentrau Iaith (http://www.google.co.uk/search?hl=en&sa ... 49l2-1l1l0).

Dyma oedd tua thri blynedd yn ôl nawr. Roeddwn i yn lansiad y ffôn yn Eisteddfod y Bala, a oedd yn dda ar y pryd. Ond prin iawn hysbysebion o gwmpas y maes, mewn ffenestri siopau, a gwelais i ddim byd ar S4C.

Nid oes modd creu pecyn iaith cyffredinol, gan fod pob ffôn yn wahanol i'w gilydd, hyd yn oed y rhai a grëir gan yr un cwmni. Byddai'n ddiddorol pe tawn ni allu cael canlyniadau poblogrwydd y ffôn...
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan ceribethlem » Gwe 02 Rhag 2011 4:59 pm

xxglennxx a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
xxglennxx a ddywedodd:Mae dy bost di, Eleri, yn dangos diffyg hysbysrwydd o ran Bwrdd yr Iaith/asiantaethau Cymraeg/Mentrau Iaith/cwmni ffôn Samsung/Orange, oherwydd BOD ffôn Cymraeg ar gael yn barod; cyhoeddwyd Samsung ym mis Awst 2009 wedi cyhoeddi ei fod am ryddhau ffôn Cymraeg, a gwnaethant - bellach mae'r S5600 â'r Gymraeg.

Fi ddim yn credu fod hwnna'n hollol deg, fe fu hysbysebu am y ffon yna pan ddaeth hi mas yn wreiddiol. Ond mae ffon o Awst 2009 yn genhedlaeth (os nad dwy, falle tair cenhedlaeth) yn hen bellach.

Bydde fe'n ddiddorol gwybod, Nia Eleri, os mai bwriadu i greu pecyn rhyngwyneb iaith ar gyfer ffon penodol (megis y ffon soniodd xxglennxx amdani), neu rhyngwyneb gellir ei osod ar OS y ffon, er enghraifft pecyn i integreiddio i mewn i system Android.
Os mai pecyn ar gyfer ffon symudol penodol sydd dan sylw yna falle elli di cysylltu a Samsung i weld pa mor boblogaidd oedd y ffon yna.

Efallai nad yw'n hollol deg, ond dyma'r gwir yn y bôn. Mae dim ond 238,000 canlyniad ymchwiliad Google ("Samsung S5600 Welsh"), mewn cymhariaeth â 7,920,000 canlyniad ymchwiliad Google â "Samsung S5600" yn unig.

O gymharu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i'r nifer o siaradwyr Saesneg ym Mhrydain, mae'r ffigwr yna'n weddol uchel.

xxglennxx a ddywedodd:Mae dau ganlyniad yn unig ar gyfer y ffôn ar wefan BYI (http://www.google.co.uk/search?hl=en&sa ... 15l0.1l1l0). Does dim byd ar gyfer yr ymchwiliad a gwefan Mentrau Iaith (http://www.google.co.uk/search?hl=en&sa ... 49l2-1l1l0).
xxglennxx a ddywedodd:Fi'n cytuno fod hynny'n siomedig.

xxglennxx a ddywedodd:Nid oes modd creu pecyn iaith cyffredinol, gan fod pob ffôn yn wahanol i'w gilydd, hyd yn oed y rhai a grëir gan yr un cwmni. Byddai'n ddiddorol pe tawn ni allu cael canlyniadau poblogrwydd y ffôn...

Pam nad oes modd creu arwyneb i gyd fynd gyda'r OS, fel Android, er enghraifft? Sdim syniad gyda fi am y dechnoleg byddai'i angen, ond o'n i'n tybio bydde fe'n gweithio.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan Nia Eleri » Gwe 02 Rhag 2011 5:36 pm

Fi'n deall taw iaith leiafrifol yw'r Gymraeg yng Nghymru yn anffodus ac nid yw pethau'n cael eu hybysebu digon ond un peth fi wir ddim yn deall yw pam eich bod chi mor negyddol am fy syniad?
Nid oedd y ffon Gymraeg gen i oherwydd roedd gen i ffon "contract" yn barod ac nid oedd modd newid, ond o ran Windows, y we, facebook, defnyddio adnoddau'n Gymraeg...rydw i'n defnyddio bob un o rhain yn Gymraeg ac efallai ychydig na fwy lwcus na chi gan fod tipyn o'm ffrindiau yn eu defnyddio'n Gymraeg hefyd.
Wrth gwrs fy mod yn gwybod am fodolaeth y ffon Gymraeg, ond fel ddywedoch chi ar ddiwedd eich ymateb, iPhone 4 sydd gennych awr ac nid ydych yn bwriadu newid am amser hir...ond pe byddai modd newid yr iaith i'r Gymraeg (heb wallau ayyb) yna credaf y byddwch chi a nifer o bobl eraill yn llawer hapusach i gadw eu ffonnau modern a newid yr iaith i'r Gymraeg.
O ran defnydd i bawb, gobeithiaf fod modd i'r Gymraeg gael ei hychwanegu i'r mwyafrif o ffonnau drwy ychydig o gamau weddol rhwydd nid gorfod prynu ffon newydd. Ond heb ofyn i unrhywun o ran cwmniau ffonnau dydw i ddim yn gwybod llawer am realiti'r peth eto..
Nia Eleri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 11 Ebr 2011 7:49 pm

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan Nia Eleri » Sad 03 Rhag 2011 12:26 am

Mae'n flin da fi os nes i swnio braidd yn gas yn yr ymateb.
Nia Eleri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 11 Ebr 2011 7:49 pm

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Sad 03 Rhag 2011 2:26 pm

O gymharu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i'r nifer o siaradwyr Saesneg ym Mhrydain, mae'r ffigwr yna'n weddol uchel.

Nage, oherwydd nid yw'r canlyniadau ystadegau yma yn cymharu â'r nifer o siaradwyr. Gall fod 5 canlyniad mewn un wefan, sydd efallai yn gyfateb ag un siaradwr Cymraeg...

Pam nad oes modd creu arwyneb i gyd fynd gyda'r OS, fel Android, er enghraifft? Sdim syniad gyda fi am y dechnoleg byddai'i angen, ond o'n i'n tybio bydde fe'n gweithio.

Mae peth raglennu tebyg rhwng ffonau a grëir gan yr un cwmni, ond fel arfer, mae'r rhaglennu yn wahanol. Wedyn, bydd yn rhaid i'r cwmni ysgrifennu sgript newydd i bob ffôn. Ti'n iawn - mi fyddai'n gweithio i ryw raddau, ond bydd angen MWY o raglennu i bob ffôn newydd, sy'n golygu mwy o waith i'r rhaglennwyr... Dwi'n gallu rhagweld nhw yn dweud nad oes galw i ddiweddaru pob ffôn â rhyngwyneb Cymraeg, ac oherwydd bod ffonau symudol wastad yn cael diweddariadau drwy feddalwedd, bydd angen rhywun sy'n cyd-weithio â'r cwmni drwy'r amser, ac dwi ddim yn credu y byddai hyn yn digwydd...
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ffonnau symudol yn Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Sad 03 Rhag 2011 2:36 pm

Fi'n deall taw iaith leiafrifol yw'r Gymraeg yng Nghymru yn anffodus ac nid yw pethau'n cael eu hybysebu digon ond un peth fi wir ddim yn deall yw pam eich bod chi mor negyddol am fy syniad?

O, na, rwyt ti wedi camddeall - dwi ddim yn negyddol o gwbl - mae'n syniad wir ardderchog. Un sydd wedi fy niddori ers oes a dweud y gwir. Jyst dweud fy nweud dwi. Mae'n ddrwg gen i os yw'n swnio'n negyddol - nid mynd ar dy groes oedd fy mwriad.

Wrth gwrs fy mod yn gwybod am fodolaeth y ffon Gymraeg, ond fel ddywedoch chi ar ddiwedd eich ymateb, iPhone 4 sydd gennych awr ac nid ydych yn bwriadu newid am amser hir...ond pe byddai modd newid yr iaith i'r Gymraeg (heb wallau ayyb) yna credaf y byddwch chi a nifer o bobl eraill yn llawer hapusach i gadw eu ffonnau modern a newid yr iaith i'r Gymraeg.

Byddwn, yn syth. Byddwn wrth fy modd byddai'r iPhone â rhyngwyneb Cymraeg. Dyma'r fath fenter y dylai'r Bwrdd fuddsoddi ynddi, ond eto, y baich gwaith (ac efallai diffyg arian) sy'n rhwystr bob tro.

O ran defnydd i bawb, gobeithiaf fod modd i'r Gymraeg gael ei hychwanegu i'r mwyafrif o ffonnau drwy ychydig o gamau weddol rhwydd nid gorfod prynu ffon newydd. Ond heb ofyn i unrhywun o ran cwmniau ffonnau dydw i ddim yn gwybod llawer am realiti'r peth eto..

Ac dyma broblem arall sydd arni - a fydd bob cwmni ffôn yn fodlon buddsoddi yn y syniad? Hyd yn hyn, dim ond Orange a Samsung sydd wedi. Efallai nad yw rhai pobl yn hoffi'r cwmni neu fêc y ffôn, waeth beth fo'r rheswm.

Fel dwi wedi'i ddweud, syniad ardderchog ydyw. Dwi'n hollol gefnogol, ac yn edrych ymlaen at y canlyniadau :D Nia, beth oedd canlyniad y Sat Nav? Dwi'n dy gofio yn gweithredu ymchwil i mewn i'r peth hwnnw hefyd sbel yn ôl...
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron