Tudalen 1 o 1

Cyfieithiad, plîs?

PostioPostiwyd: Iau 01 Rhag 2011 5:16 pm
gan xxglennxx
Shwmae, bawb.

Mae gen i ffrind sy'n awyddus i gael tatŵ Cymraeg. Mae hi am gael cyfieithiad o hyn: "Love knows no boundaries."

Nawr 'te, dwi ddim eisiau ei gyfieithu'n rhy "Seisnigaidd," ac dwi ddim yn siŵr os oes priod-ddull Cymraeg ar gael, ond dwi wedi bod yn meddwl ar hyd,

'Nid oes terfynau ar gariad'

All unrhyw un arall awgrymu unrhyw beth arall?!

Diolch ymlaen llaw.

Re: Cyfieithiad, plîs?

PostioPostiwyd: Iau 01 Rhag 2011 7:18 pm
gan ceribethlem
Cariad heb ffiniau?

Re: Cyfieithiad, plîs?

PostioPostiwyd: Gwe 02 Rhag 2011 8:38 pm
gan Chickenfoot
Nid oes terfyn i gariad? Ddim cweit yr un peth, ond yn agos.

Re: Cyfieithiad, plîs?

PostioPostiwyd: Gwe 02 Rhag 2011 10:56 pm
gan Kez
Cariad pur sydd fel y dur yn para tra bo dau.

(Geiriau rhyw hen gan werin yw honna wi'n credu ond rhwydd hynt i rywun fy nghywiro)

Os yw'r cwpwl yn debyg i Kate Roberts a'i thebyg fel mae rhyw si ar led - gellir gweud 'Cariad pur sydd fel y dur yn para tra bo dwy' -- wediny ma'r lesbiaid yn hapus 'ed yndife!!

Re: Cyfieithiad, plîs?

PostioPostiwyd: Sad 03 Rhag 2011 2:17 pm
gan xxglennxx
Mae'r cyfieithiadau hyn yn ardderchog - daliwch ati â nhw, fois! Dwi wedi anfon y rhain ati hi, er mwyn ei chadw yn y lwp.

Diolch yn fawr :D

Re: Cyfieithiad, plîs?

PostioPostiwyd: Sul 20 Ion 2013 12:50 am
gan Gorwythdroed
xxglennxx a ddywedodd:
tatŵ



Bodola air Cymraeg yn barod am hyn: croenlun :D

Re: Cyfieithiad, plîs?

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2013 11:25 am
gan ceribethlem
Gorwythdroed a ddywedodd:
xxglennxx a ddywedodd:
tatŵ



Bodola air Cymraeg yn barod am hyn: croenlun :D


Gwych :lol: