Dwi wrthi'n cyfieithu gêm cyfrifiadurol i'r iaith Gymraeg ond dwi ddim yn gallu ffeindio gair ar gyfer "controls" yn y Gymraeg. ("Keyboard controls", "Joystick controls", "Mouse controls", ayyb.)
Mae'r gair 'rheoliadau' yn swnio i fi fel tydi o ddim yn ffitio fewn oherwydd mae o'n feddwl 'rules' ac nid 'controls'.
Ydi'r gair 'rheoliadau' yn iawn ar gyfer dynodi 'controls' bysellfwrdd neu'r llygoden? Ta oes gair gwell?